Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi lleisio pryderon difrifol am y driniaeth a gafodd unigolion ar wardiau mamolaeth sy'n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Daeth hyn i’r golwg o galyniad i lythyr a ddaeth i’w swyddfa yn cadarnhau bod sefydliad Birthrights, ym mis Mehefin 2021, wedi cael pum ymholiad gwahanol am broblemau gyda gofal dan Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru.
Yn y llythyr a ddaeth i swyddfa'r Aelod, meddai Birthrights:
“Mae'r adroddiadau rydym yn eu darllen yn awgrymu diwylliant mamolaeth annhosturiol. Mae’n hysbys bod aelodau staff wedi gadael am nad oedd modd iddynt ddarparu'r gofal y maen nhw am ei roi.
Gan danlinellu'r angen dybryd i fynd i'r afael â'r mater, dywedodd Janet:
“Ar ôl codi pryderon trwy gydol y pandemig am driniaeth yn y Bwrdd Iechyd, yn cynnwys achosion lle gwrthodwyd y cyfle i bartner neu unigolyn arall o’u dewis fod yn bresennol gyda’r fam, mae’n bryder mawr i mi dderbyn rhagor o gwynion am y gofal mamolaeth a ddarperir gan y Bwrdd.
“Drwy lythyr a ddaeth i'm swyddfa, cefais wybod bod llinell gyngor Birthrights wedi derbyn galwad o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith, bob mis ers mis Ebrill 2021 ynghylch materion yn ymwneud â darparu gofal a diffyg parch at urddas a hawliau dynol mewn ysbytai sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Mae'n amlwg bod y tîm o bosibl dan ormod o bwysau ac angen cymorth. Felly, mae'n hanfodol cynnal adolygiad brys er mwyn deall y problemau a amlygwyd, yn ogystal â graddau'r problemau. Dylai'r adolygiad hwn gyfrannu hefyd at ymchwiliad annibynnol llawer ehangach i'r achosion o gamreoli yn y Bwrdd Iechyd, sy'n parhau yn bendrwm o ran staff ac yn brin o adnoddau ar gyfer staff rheng flaen.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gweler copi wedi'i olygu o'r llythyr a gafwyd.
- Dywed Birthrights eu bod wedi helpu gyda 1080 a mwy o ymholiadau unigol yn ystod y flwyddyn Ebrill 2020 - Ebrill 2021 a’u bod yn yn parhau i helpu tua 90 - 100 o bobl bob mis drwy'r gwasanaeth cynghori personol drwy e-bost.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS