Cyn dydd Sadwrn Busnesau Bach, ac fel ffordd o gynorthwyo masnachwyr lleol, mae Janet Finch-Saunders AS wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i annog yr awdurdod lleol i adolygu ei gynlluniau taliadau parcio’r Nadolig “fel ffordd o annog mwy o bobl i ymweld â chanol ein trefi a gwario yno.”
Mae siroedd Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn ymhlith yr awdurdodau lleol sy’n cynnig cyfnodau consesiynau yn eu meysydd parcio eu hunain, ar adegau gwahanol dros y gwyliau. Ar hyn o bryd, Cyngor Conwy yw un o ddim ond dau awdurdod lleol y rhanbarth i beidio â chynnig gostyngiadau parcio dros y Nadolig ym meysydd parcio’r Cyngor.
Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet:
“Mae cyfnod masnachu’r Nadolig yn hynod bwysig i’n busnesau bach a chanolig. Ar hyn o bryd, mae Conwy yn un o ddim ond dau awdurdod lleol y Gogledd sydd ddim am gynnig gostyngiadau parcio ledled y sir dros y Nadolig
“Mewn mannau eraill yn y Gogledd, mae awdurdodau lleol wedi cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn cael eu denu i wario eu harian a chefnogi busnesau lleol. Rwy’n poeni y gallai hyn roi ein trefi dan anfantais wrth geisio denu siopwyr i’r stryd fawr.”
“Mae’r modd mae ein busnesau cynhenid wedi llwyddo i bontio her y pandemig yn dyst i’w gwydnwch, eu dyfeisgarwch a’u hoptimistiaeth. Cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach, roeddwn yn falch o ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried ei gynlluniau parcio ar gyfer y Nadolig fel y gallwn eu cefnogi ymhellach.”
Ymgyrch llawr gwlad, anfasnachol, sy’n tynnu sylw at lwyddiannau busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i ‘siopa’n lleol’ yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach. Cynhelir yr ymgyrch eleni am y nawfed flwyddyn o’r bron, ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr 2021. Gobeithio y gallwn ragori ar lwyddiant Rhagfyr y llynedd, gyda 15.4 miliwn o bobl yn cymryd rhan ledled y Deyrnas Unedig gan wario £1.1 biliwn, sy’n record.
DIWEDD