Mewn llythyr i Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi annog datrys y pryderon ynghylch gosod croesfan ddiogel i gerddwyr yn Llwyn Brith, Llanrwst.
Ynghyd â chyflwyno achos ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, derbyniodd Mrs Finch-Saunders ymrwymiad y byddai asesiad croesfan preswylwyr yn cael ei drefnu ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae’r Aelod wedi mynegi pryderon am y llaesu dwylo wrth weithredu ar yr addewid hwn, gan alw am ddiweddariad ac adolygiad i unrhyw argymhellion sydd wedi’u gwneud.
Gan roi sylwadau ar y llythyr, dywedodd Janet:
“Mae’n rhaid i’r preswylwyr ym Mharc yr Eryr, Llwyn Brith a Maes Melwr sy’n defnyddio gwasanaethau bws, plant lleol a phobl fregus sydd am gerdded i’r dref neu’r ysgol, groesi’r A470 yn rheolaidd. Mae hyn yn fater sylweddol o ddiogelwch i bawb sy’n defnyddio’r ffordd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan gall fod yn anodd i yrwyr weld.
“Wrth i fwy ddefnyddio’r rhan hon o’r ffordd, rwyf wedi bod wrthi’n deisebu Llywodraeth Cymru i ddisodli’r groesfan bresennol nad yw’n cael ei rheoli a gosod croesfan cerddwyr mwy parhaol. Ond nawr, saith mis i mewn i flwyddyn ariannol 2021/22, rydym yn dal i ddisgwyl am ddiweddariad gan swyddogion.
“Mae’r mater diogelwch ffordd hwn yn achos pryder mawr i lawer o breswylwyr yn yr ardal, felly mae’n hanfodol bod y Dirprwy Weinidog yn gweithredu ar ei addewid er mwyn i ni ddod o hyd i ateb derbyniol a chost effeithiol. Rydym wedi aros yn ein hunfan am rhy hir. “
Gofynnodd yr achos a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru'r llynedd am ystyried terfyn cyflymder 20 mya dros dro ar yr A470 rhwng Tŷ Glan Conwy (Stryd y Bont) Llanrwst a’r gyffordd gyda Ffordd Nebo. Comisiynwyd asesiad, ac mae Mrs Finch-Saunders wedi gofyn am y diweddaraf ar hyn hefyd.
DIWEDD