Wrth nodi’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl, a drefnir gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi ysgrifennu at Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru i gynnig cydweithio i wella mynediad at wasanaethau lleol.
Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i amgáu. Ar ddiwedd y Pumed Senedd, bu Janet yn holi’r Gweinidog Iechyd am y cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru i gael gweithiwr iechyd meddwl ymroddedig ym mhob meddygfa deulu.
Wrth roi sylwadau ar yr angen am welliannau, dywedodd Janet:
“Allwn ni ddim gorddweud effaith y pandemig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Dyna pam i mi nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl drwy anfon llythyr at Gyd-gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, yn nodi’n glir fy mod yn cefnogi gant y cant y cynigion i sefydlu gweithiwr iechyd meddwl ymroddedig ym mhob meddygfa deulu ledled Cymru.
“Yn unol â thema’r wythnos eleni, cysylltu â natur, byddwn hefyd yn hoffi gweld cynnydd yn y defnydd o roi presgripsiynau gwyrdd oherwydd mae’n ffaith bod yr awyr agored - a’n tirwedd leol anhygoel ni yn arbennig – yn llesol i iechyd.
“Fel y mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru wedi datgan, byddai gwella mynediad yn sicrhau bod cleifion yn cael trafodaeth gytbwys i alluogi adolygiad o ba gymorth sydd ei angen a pha gymorth sydd ar gael, gan roi diwedd ar y duedd bryderus o droi at feddyginiaeth.
“Am y rheswm hwn, rwyf wedi nodi’n glir fy nymuniad i gydweithio gyda’r Coleg Brenhinol i ddal ati gyda’r cwestiynau a fydd yn gwella mynediad at iechyd meddwl yn lleol ac efallai hyd yn oed llunio cynnig deddfwriaethol ar gyfer y dyfodol, i weld ein syniadau yn cael eu gwireddu yn llawn gan swyddogion ym Mae Caerdydd.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion: