Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i bwyso am adolygiad o'r canllawiau ar ddigwyddiadau rhedeg awyr agored, fel y gellir cael cydraddoldeb o ran y cyfarwyddyd a roddwyd i gwmnïau yn Lloegr. Mae'r etholaeth yn gartref i Hanner Marathon enwog Eryri, Hanner Marathon Conwy a Hanner Marathon Gogledd Cymru. Daw ei llythyr yn dilyn Cwestiwn Ysgrifenedig i'r Prif Weinidog, a oedd yn gofyn am eglurder ynghylch y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gefnogi dychwelyd twrnameintiau pêl-droed ieuenctid yn ddiogel. Gyda'i gilydd, mae Janet yn gobeithio y bydd ailddechrau digwyddiadau o'r fath yn helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa o iechyd meddwl gwael drwy 'sianelu egni'n gynhyrchiol' tuag at lwyddiant yn y maes chwaraeon.
Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet:
“Rydw i'n falch fy mod wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i gofrestru fy mhryder yn ffurfiol am effaith cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar y sector digwyddiadau chwaraeon awyr agored. O gerdded cyflym i redeg marathon, mae'r calendr digwyddiadau hwn yn hanfodol i arlwy'r Gogledd ar gyfer twristiaid.
“Ond yn fwy cyffredinol, mae atal digwyddiadau chwaraeon awyr agored sy'n ddiogel o ran Covid wedi bod yn un o'r heriau mwyaf parhaus i'n hymdeimlad o les cyfunol. I lawer, mae'r rasys hyn yn rhoi targed y gellir sianelu eu hegni'n gynhyrchiol tuag ato. Mae atal digwyddiadau o'r fath rhag cael eu trefnu yn parhau i fod yn ddraenen yn ystlys ein hymdrechion i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael.
“Wrth gwrs, yn dilyn fy nghwestiynau yn Siambr y Senedd yr wythnos ddiwethaf, rydw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r canllawiau i gwmnïau lletygarwch o ran adloniant dan do. Roedd y cam hwn yn dangos bod adolygiadau brys o'r canllawiau bellach yn gyraeddadwy.
“Roedd y newid i'r canllawiau adloniant yn cydnabod gwerth gwaith o'r fath i gyrchfannau glan môr a chyrchfannau gwledig Aberconwy, yn ogystal ag effaith cyfyngiadau parhaus ar ein diddanwyr. Rydw i'n gobeithio'n fawr y bydd yr ymdeimlad hwnnw'n ennill y dydd mewn perthynas â'n digwyddiadau chwaraeon awyr agored.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Ar hyn o bryd, gall gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu yng Nghymru gael hyd at 50 o bobl o unrhyw oedran. Yn Lloegr, gellir cynnal gweithgareddau chwaraeon awyr agored wedi'u trefnu mewn unrhyw niferoedd, yn amodol ar ganllawiau sy'n benodol i’r chwaraeon.
- Amgaeaf gopi o lythyr Janet at y Dirprwy Weinidog.
Ffotograff: gan sporlab ar Unsplash