Yn dilyn adroddiadau am ddifrod ychwanegol i lwybr arfordirol a morglawdd Llanfairfechan dros y penwythnos, mae Janet Finch-Saunders AS wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru i adolygu pa asesiad a wnaed o’r difrod a pha gymorth ariannol a fydd ar gael.
Adeg storm y penwythnos, roedd gwaith eisoes wedi dechrau i drwsio’r difrod a achoswyd i’r llwybr cyhoeddus a’r morglawdd gan storm flaenorol ar 5 Hydref 2021, a adawodd sawl eiddo ar hyd Heol Pen Morfa yn fwy agored i lifogydd.
Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet:
“Er yr hoffwn ganmol Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu camau cyflym i gymeradwyo gwaith atgyweirio brys i’r morglawdd o dan Ddeddf Adeiladu 1984, mae pryderon sydd wedi cyrraedd fy swyddfa yn dangos bod y storm ddiweddaraf wedi sgubo rhai o’r rheiliau, darnau pellach o’r llwybr a rhannau o’r gwaith a gwblhawyd ar ôl Storm Arwen allan i’r môr.
“Yn dilyn fy nghais am ddatganiad i’r Trefnydd, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am gydweithio â’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i weld a oes modd clustnodi cyllideb wrth gefn hirdymor er mwyn helpu awdurdodau lleol pan fydd difrod annisgwyl a hirdymor yn digwydd. Hefyd, rwyf wedi gofyn iddi adolygu’r sefyllfa benodol yn Llanfairfechan.
“Trwy ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor am eglurder ynghylch asesiad o’r difrod yn sgil y storm ddiweddaraf, ac o gofio bod mwy o dywydd garw i’w ddisgwyl bellach ac effaith hyn ar y seilwaith lleol, rwyf hefyd wedi pwysleisio y byddaf yn holi’r Prif Weinidog eto am gyllid wrth gefn ar gyfer llifogydd yn ystod sesiwn o Gyfarfod Llawn y Senedd yr wythnos hon. Mae’n hanfodol ein bod yn rhagweithiol yn y maes hwn.”
Mae’r llythyr at y Cynghorydd McCoubrey hefyd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cais i wella system amddiffyn arfordirol Llandudno sy’n cael ei gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Daeth cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021 i’r casgliad mai Opsiwn 2 sydd orau ar gyfer y gwaith gwella. Byddai’r cynnig hwn yn golygu bod tywod y gellid ei reoli gan grwynau pren yn cymryd lle’r morglawdd coblog rhwng Cornel y Plant a Stryd Vaughan.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gweler copïau o’r ddau lythyr atodedig.