Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod Achos Busnes Amlinellol Cynllun Lliniaru Llifogydd Llandudno ar gyfer gwaith ar Draeth y Gogledd a Thraeth Penmorfa yn cael ei adolygu.
Wrth ymateb i lythyr a anfonwyd gan Aelod Aberconwy, dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
“Gallaf gadarnhau bod yr Achos Busnes Amlinellol wedi nodi'r opsiwn a ffefrir gan yr awdurdod lleol. Mae swyddogion yn adolygu'r Achos Busnes Amlinellol a byddant yn penderfynu maes o law a ddylai'r cynllun symud ymlaen i'r cam dylunio manwl."
Wrth sôn am y datblygiad diweddaraf yn yr ymgyrch hir i weld tywod yn dychwelyd i Draeth y Gogledd, dywedodd Janet:
“Mae'r miloedd o dunelli o gerrig chwarel ar Draeth y Gogledd yn destun pryder mawr yma'n Llandudno, felly roeddwn i'n falch o'r cyfle i ysgrifennu at y Gweinidog yn pwysleisio mai'r opsiwn a ffefrir gan y gymuned, Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Fforwm Arfordirol Llandudno, a minnau yw'r un sy'n cynnwys dychwelyd traeth tywodlyd.
“Os yw Llywodraeth Cymru am helpu Llandudno i ffynnu fel cyrchfan fyd-eang i dwristiaid, mae'n hanfodol ei bod yn cefnogi galwad ein cymuned am amddiffynfa fôr effeithiol sy'n cynnwys adfer ein traeth tywodlyd.
“Edrychaf ymlaen at wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu symud y cynllun ymlaen i'r cam dylunio manwl, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod swyddogion bellach yn adolygu'r cais."
DIWEDD
Dogfennau:
- Llythyr gan Janet Finch-Saunders AS at Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Janet Finch-Saunders AS