Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Mynediad am ddim i Eisteddfod Genedlaethol 2019

  • Tweet
Thursday, 22 November, 2018
Eisteddfod

Ar ôl i Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, ganfod bod Llywodraeth Cymru wedi lleihau ei chymorth ariannol i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac ar ôl iddi alw am fynediad am ddim i’r Maes yn Llanrwst, mae’r Farwnes  Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymateb yn gadarnhaol, gan ddweud mai “mater i’r Eisteddfod ydi hwn rŵan”.

Mae cwestiwn Janet ac ymateb y Gweinidog wedi’u nodi ar y gwaelod.

Wrth drafod yr ymateb, meddai Janet:

“Does dim amheuaeth bod yr arbrawf o gynnig mynediad am ddim i’r Maes ym Mae Caerdydd yn llwyddiant. 

“O ystyried bod cymunedau ledled Conwy yn gweithio’n galed iawn i godi £320,000 i dalu am y dathliad pwysig hwn o iaith, diwylliant a thalent Cymru, a bod yr Eisteddfod yn rhan o’r strategaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae’n amlwg i mi y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi polisi mynediad am ddim eto yn 2019.

“Rwyf yn falch iawn nad yw’r Gweinidog wedi diystyru’r posibilrwydd hwn, a’i bod wedi nodi ei pharodrwydd i drafod y posibilrwydd o gynnig mynediad am ddim os yw’r Eisteddfod Genedlaethol yn datgan ei bwriadau.

“Mae’n ymddangos mai mater i’r Eisteddfod ydi hwn rŵan.

“Er mwyn sicrhau tegwch a gwella’r cyfle i’r ŵyl ddenu cynulleidfa ehangach, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Eisteddfod ddatgan ei dymuniad i gynnig mynediad am ddim. O’r herwydd, byddaf yn ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Gweithredol yr Eisteddfod”.

DIWEDD

Cwestiwn Ysgrifenedig Janet Finch-Saunders AC i’r Farwnes Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol:

Ymhellach i WAQ77240, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu’r cymorth ariannol sydd ei angen ar yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau mynediad am ddim i’r Maes yn 2019?

Ymateb y Gweinidog:

Nid yw’r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgan ei bwriadau ynglŷn ag ailadrodd yr arbrawf o gynnig mynediad am ddim i Faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni. Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â’r Eisteddfod ac rydym yn bwriadu parhau i weithio gyda’i swyddogion i weld sut y gallwn ddatblygu llwyddiant Eisteddfod Bae Caerdydd eleni, gan ystyried y ffordd orau o helpu’r Eisteddfod i ddatblygu a denu cynulleidfa ehangach.

Nodiadau:

Galw am ddileu tâl mynediad i brifwyl Llanrwst

Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg

  • Senedd News

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree