Wrth roi ei hanerchiad Nadolig blynyddol, dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
"Y Nadolig hwn, rwyf am ddiolch a thalu teyrnged i’r gwydnwch a ddangoswyd gan breswylwyr a busnesau ledled yr etholaeth.”
“Mae’r ymdrech i frechu wedi bod yn anhygoel, gyda phenderfyniad ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gwirfoddolwyr a’r lluoedd arfog wedi parhau’n gwbl gadarn.
"Er gwaethaf heriau’r llynedd, cafwyd canlyniadau rhagorol yn ein hysgolion, sy’n dipyn o gamp gan ein myfyrwyr, athrawon a rhwydweithiau cymorth teulu.
"Mewn mannau eraill, er i Landudno gadw ei choron haeddiannol fel Brenhines Cyrchfannau Cymru, enillodd busnesau ledled yr etholaeth lu o wobrau cenedlaethol a byd-eang am eu hansawdd a’u harloesedd.
"Wrth i gwmwl Omricon gyflwyno her iechyd cyhoeddus arall, mae myfyrio ar y straeon llawn gobaith hyn yn dangos cryfder ein cymunedau.
"Gobeithio y cewch chi dymor diogel a chyfle i ymlacio. Nadolig Llawen!
DIWEDD