Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi canmol trefnwyr Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2021, yn dilyn noson hynod lwyddiannus i fusnesau lleol. Eleni, roedd y sefydliad yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu, ac roedd wedi derbyn dros 200 o geisiadau ar gyfer ei seremoni wobrwyo flynyddol. Cyflwynwyd y seremoni gan Siân Lloyd, ac fe'i cynhaliwyd yn Venue Cymru.
Ymhlith llwyddiannau'r noson oedd Mr Glenn Evans, Rheolwr Cyffredinol Gwesty'r Royal Oak ym Metws-y-Coed, a enillodd y wobr Arwr Twristiaeth a Lletygarwch. Enillodd Hosbis Dewi Sant o Landudno'r Wobr Gwydnwch ac Arloesi, ac enillodd Venue Cymru'r Wobr Digwyddiadau Busnes a Theithiau Cymhelliad.
Enillwyd gwobrau gan fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn rhannau eraill o'r etholaeth hefyd, gan gynnwys Lyons Park sy'n cynnal Parc Carafanau a Chlwb Gwledig Neuadd Pendyffryn yn Nwygyfylchi, a gipiodd y Wobr Llety Hunanddarpar. Ar ôl agor yn Llandudno yn gynharach eleni ar ôl trawsnewid Hen Ysgol y Bwrdd sy’n adeilad rhestredig Gradd II, enillodd Distyllfa Penderyn wobr Atyniad y Flwyddyn. Dyfarnwyd Gwobr 30 Mlynedd yn y Diwydiant Twristiaeth i Dr. Shyam Patiar, a fu'n Gyfarwyddwr Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo am flynyddoedd lawer, fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad pwysig at hyfforddi pobl ifanc yn y diwydiant.
Wrth siarad am lwyddiant yr etholaeth yn y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Hoffwn ganmol Jim Jones a'i dîm yn Go North Wales am noson arbennig i ddathlu llwyddiant – ar gyfer sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth, ond hefyd wrth nodi 30 mlynedd ers sefydlu'r cwmni pwysig hwn sy'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo ein rhanbarth i weddill y byd.
“Diben y gwobrau gwych hyn yw dathlu rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth ein rhanbarth, a rhoi cyfle i ni arddangos cyflawniadau, gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant. Yn dilyn amser hynod heriol i'r diwydiannau hanfodol hyn, roedd yn bleser mawr cydnabod cadernid y busnesau.
“Llongyfarchiadau i holl enillwyr y noson ac i'r busnesau a lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer. Mae cryfder ac amrywiaeth y busnesau a gafodd sylw ar y noson, a'u gwaith arloesol a hynod ddyfeisgar, yn dangos pam mai ni yw coron arlwy twristiaeth Cymru.
“Mae gan yr ardal hon enw da eisoes am atyniadau trawiadol a chyfleusterau antur hynod gyffrous, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwobrau hyn yn annog mwy o ymwelwyr i ddod i'n cymunedau a gwario arian yma. Rwy'n hynod falch bod etholaeth Aberconwy, a Gogledd Cymru, yn gartref i mi.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru.