Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a hyrwyddwr rhywogaeth llamidyddion Cyswllt Amgylchedd Cymru - wedi parhau â’i gwaith yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu pa ddata ychwanegol sydd angen ei gasglu i werthuso effaith ein cymdeithas ar y rhywogaeth.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig, gofynnodd Janet:
“Yn sgil cau’r ymgynghoriad cyhoeddus, a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyfranogiad Llywodraeth Cymru yn Strategaeth Cadwraeth Dolffiniaid a Llamidyddion y DU i geisio nodi’r pwysau amgylcheddol ar boblogaethau llamidyddion yng Nghymru?
Daw’r cwestiwn yn sgil pryderon cynyddol am yr angen i gydbwyso datblygiad cynyddol ein moroedd fel canolfan ar gyfer cynhyrchu ynni a hamdden twristiaeth, gydag adfer cynefinoedd morol a dal a storio carbon.
Yn rhoi sylwadau ar ei hymyrraeth, dywedodd Janet:
“Rydym ni’n gwybod bod datblygu ein moroedd yn cael effaith ganlyniadol ar y bywyd gwyllt sy’n ymgartrefu ar ein glannau. Mae llamidyddion, er enghraifft, nid yn unig dan fygythiad llygredd môr, ond maent hefyd wedi dioddef yn sgil damweiniau cychod, sŵn a gynhyrchir gan bobl a chael eu dal yn ddamweiniol mewn rhwydi pysgota.
“Er fy mod yn cydnabod y bydd unrhyw bost-mortem sy’n cael ei gynnal gan y Rhaglen Ymchwilio i Forfilod wedi Tirio yn darparu data i Lywodraeth Cymru, mae’r gwaith mapio sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn gyfle delfrydol i adolygu effaith gweithgareddau dynol ar gynefin a lles llamidyddion.
“Fel rhywun sy’n dadlau bod angen brys am gynllun datblygu morol, rwy’n glir y bydd cynllunio morol effeithiol yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol a’r ffynonellau bwyd y mae llamidyddion yn dibynnu arnynt i oroesi yn cael eu diogelu ac yn cael ffynnu. Gyda’r Senedd yn datgan argyfwng natur, byddai gweithredu fel hyn yn dystiolaeth bod polisi uchelgeisiol ar y gweill.”
Gellir gweld llamidyddion yn agos at y glannau mewn dŵr bas. Maent yn famaliaid gwaed cynnes ac mae eu maint bach yn golygu bod yn rhaid iddynt fwydo’n aml i gynnal tymheredd eu cyrff ym moroedd oer Prydain. Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, maent yn bwydo ar bysgod, gan gynnwys penwaig a gwyniaid y môr.
Y llynedd, llofnododd Janet addewid MCS UK i ddiogelu moroedd Cymru. Fel Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, mae Janet wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i foroedd sy’n cael eu rheoli yn dda fel ffordd o hybu’r ‘economi glas’, gan ddeisebu dros gyflwyno Cynllun Datblygu Morol.
DIWEDD
Ffoto er caredigrwydd Ymddiriedolaethau Natur Cymru, credyd: Niki Clear.