Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Profion COVID-19 – y Gweinidog Iechyd a’i Ddirprwy yn cyfaddef bod pryder ynghylch preswylwyr yn derbyn gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain

  • Tweet
Thursday, 4 June, 2020
Janet

Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi gweld Gweinidog Iechyd Cymru yn cyfaddef bod ei chwestiwn ynghylch gofal cartref yn peri pryder mawr iddo ac i’r Dirprwy Weinidog. Gwnaed y sylw mewn ymateb i gais Mrs Finch-Saunders yn ystod y Cyfarfod Llawn am i’r Gweinidog egluro pam nas oes monitro o ran COVID-19 na data yn cael ei gasglu ar y rhai sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain.

Yn siarad ar ôl i’r Gweinidog gydnabod pryderon ynghylch gofal cartref, dywedodd Janet:

“Darperir gofal cartref i rai o bobl fwyaf bregus cymunedau Cymru.

“Dros ddeg wythnos ers dechrau’r cyfyngiadau symud, mae’n gywilyddus nad oes data yn cael ei gasglu ac ar gael ar nifer y profion ar staff gofal cartref a’u cleientiaid.

“Ymddengys bod hon yn rhan o’n cymdeithas sydd wedi’i hanghofio, gan roi’r rhai sy’n derbyn ac yn darparu’r gofal mewn perygl.

“Mae’r ffaith bod y Gweinidog Iechyd wedi cyfaddef fod hyn yn rhywbeth sy’n ei boeni ef a’i ddirprwy a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

“Mae problem ynghylch trosglwyddo Covid-19 ac mae angen gweithredu ar unwaith i ddiogelu gweithwyr allweddol a phobl sy’n dibynnu ar ofal yn eu cartrefi eu hunain.

“Rwyf wedi annog Gweinidogion Cymru dro ar ôl tro i sicrhau bod yr un chwarae teg i bawb mewn perthynas â phrofion, beth bynnag fo’r lleoliad neu faint y gymuned. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru wneud mwy i brofi a diogelu staff a chleifion gofal cartref”.

DIWEDD

 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree