Wrth gyfrannu at ddadl y Senedd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw, mae Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd a’r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi beirniadu'r Llywodraeth ddatganoledig am barhau i osod trefniadau hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol yng nghefn y ciw gan godi pryderon am y toriad cyllid termau real i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ategwyd ei dadl gan y ffaith fod data a gyflwynwyd trwy ymgynghoriad cyllidebol Cyswllt Amgylcheddol Cymru yn dangos bod cyllid CNC wedi gostwng 35% rhwng 2013 a 2020, tra bod Natural England wedi cael cynnydd o 47% yng nghyllid llywodraeth Loegr.
A hithau’n ymgyrchydd cyson dros ddiogelu'r môr ac adfer cynefinoedd, defnyddiodd Mrs Finch-Saunders ei haraith i alw am eglurder ar faint o arian sy'n cael ei wario ar ymdrechion cadwraeth morol a physgodfeydd. Hefyd, codwyd pryderon am swm amhenodol a fydd yn mynd tuag at sefydlu cwmni ynni ym mherchnogaeth y cyhoedd.
Wrth sôn am ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, mae rhanddeiliaid wedi codi pryderon priodol am ddiffyg capasiti ymddangosiadol ar gyfer rhaglenni monitro cadarn a gwaith rheoli safleoedd gwarchodedig, yn enwedig o gofio bod erlyniadau yng Nghymru am droseddau amgylcheddol wedi gostwng tua 61% rhwng 2013 a 2020.
“Rydym yn gwastraffu cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes amddiffynfeydd gwyrdd. Yn ôl fy nadansoddiad fy hun, bydd CNC bellach yn cael toriad termau real mewn cyllid, sy'n parhau i fod yn £69.7 miliwn ar gyfer 2022-23. Hyn er gwaethaf pryderon cyson a godwyd gan yr Asiantaeth ynghylch eu hadnodd a'u gallu fel gweithlu i ymateb i lifogydd.
“Er mwyn diogelu ein mannau gwyrdd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r mater ac yn ceisio defnyddio pa bynnag adnodd sydd ar gael i gyflwyno fframwaith ar gyfer Swyddfa Annibynnol dros Ddiogelu'r Amgylchedd yn yr hirdymor.
“Wrth gydnabod y bydd swm amhenodol yn mynd tuag at sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, o ystyried y problemau a wynebodd cwmni ynni Bryste, lle gwerthwyd ased a oedd yn methu am £14 miliwn, llawer llai na'r £36.5 miliwn a fuddsoddwyd gan Gyngor Dinas Bryste, teimlaf y byddai'n well gwario'r arian hwn yn sefydlu treial microgrid yng Ngogledd Cymru.
“Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym Mae Caerdydd wedi cydnabod ers tro bod Cymru'n parhau i brofi argyfwng o ran capasiti’r grid sy'n achosi methiant diangen yn y system, gan atal cynnydd ystyrlon a hirdymor yn chwyldro diwydiannol gwyrdd y genedl. Mae'n hen bryd i ni wneud defnydd doeth o'n hadnodd er mwyn cynhyrchu camau gweithredu'r hinsawdd yn hytrach na rhethreg sy'n rhoi hwb i'r ego."
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS