Mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i adolygu pa gyllid a neilltuir ar gyfer ail-lansio a datgarboneiddio busnes, yn dilyn cadarnhad gan Weinidog yr Economi bod y cynllun cymorth arfaethedig wedi'i dynnu'n ôl a bod yr arian wedi'i ailddyrannu i ddarparu cyllid brys o ganlyniad i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 2.
Daw'r pryder wrth i Adroddiad Technegol y Third UK Climate Change Risk Assessment (CCRA3) amlinellu y disgwylir i fusnes a diwydiant fod yn agored i "effeithiau trothwy" y newid yn yr hinsawdd a allai olygu bod angen llawer mwy o lefelau neu wahanol fathau o ymaddasu. Yn ôl yr adroddiad, mae tystiolaeth o gamau gweithredu ymaddasu corfforaethol yn parhau'n isel, gydag ychydig o dystiolaeth yn unig bod yr ymwybyddiaeth gynyddol o risgiau hinsawdd wedi arwain at newidiadau mewn penderfyniadau buddsoddi.
Wrth wneud sylwadau am yr ateb, dywedodd Janet:
“Gan fod y gronfa ariannu arfaethedig hon wedi'i hysbeilio i gynorthwyo gyda chynlluniau cymorth Omicron, rwyf wedi annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar sut y bydd yn cynorthwyo busnesau yn eu cynlluniau ailddatblygu a datgarboneiddio hirdymor.
“Gyda thargedau sero net sy'n gyfreithiol rwymol wedi'u gosod, ceisiodd y cymorth ariannol pwysig hwn helpu busnesau i fynd i'r afael â rhai o'r materion pwysicaf sy'n wynebu Cymru, gan gynnwys mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau yn y sectorau craidd a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae arnaf ofn y gallai'r gwaith hwn gael ei danseilio drwy adleoli'r arian hwn.
“Roedd cyllideb garbon ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn honni ei bod wedi cydnabod y degawd hwn o weithredu fel moment allweddol i ddatblygu sgiliau gwyrdd ar gyfer swyddi'r dyfodol, yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o effeithiau newid. Mae'n hanfodol bod yr addewid hwn yn cael ei ategu gan y gefnogaeth angenrheidiol i gynorthwyo ein busnesau yn eu hesblygiad gwyrdd.”
Yn yr ateb i'r Cwestiwn Ysgrifenedig, amlinellodd Llywodraeth Cymru y gellir cael gafael ar gyllid amgen ar hyn o bryd drwy Fanc Datblygu Cymru, gyda chyllid benthyciadau ac ecwiti ar gael i fusnesau Cymru. I gael rhagor o fanylion, ewch i: developmentbank.wales/cy
DIWEDD
Ffotograff: gan Ella Ivanescu ar Unsplash