Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

#SaveOurZoos: ‘Cefnogi ein sŵau gyda symiau canlyniadol Barnett’

  • Tweet
Wednesday, 10 June, 2020
#SAVEOURZOOs

Heddiw (10 Mehefin), mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi ysgrifennu heddiw at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru heddiw (10 Mehefin) i amlinellu ei 'phryderon difrifol' ynghylch datganiad a wnaed yn ystod cyfarfod llawn y Senedd ddydd Mercher.

Mewn ymateb i gwestiwn yn gofyn am ganiatáu i Sw Mynydd Cymru ailagor, atebodd y Gweinidog:

'Nawr, yn y cyfamser, rwy'n credu bod y math o gymorth sy'n cael ei gynnig i sŵau yng Nghymru wedi bod yn rhyfeddol, o gofio na chawsom yr un geiniog o symiau canlyniadol yn seiliedig ar gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gronfa sŵau.'

Fodd bynnag, mewn ymateb diweddar i gwestiwn ysgrifenedig yn Nhŷ'r Cyffredin, sicrhaodd Victoria Prentis AS y bydd gweinyddiaethau datganoledig yn derbyn £2.1 miliwn o arian ychwanegol gan fod Cronfa Cymorth i Sŵau Llywodraeth y DU yn gymwys am symiau canlyniadol Barnett.

Wrth drafod y sesiwn lawn, dywedodd Janet:

“Rwy'n annog Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gywiro'i sylwadau ar unwaith. Yn ystod y cyfnod hwn o gryn bwysau a heriau, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr arian mae'n ei gael a sut mae'n cael ei wario.

“Gofynnaf hefyd i Weinidog Cymru egluro a fydd yn defnyddio'r symiau canlyniadol i gefnogi ein sŵau sydd mewn dyfroedd dyfnion. Mae llawer ohonynt wedi bod heb unrhyw gymorth ariannol ers dechrau'r pandemig, ac mae nifer yn dweud eu bod ar fin cau.

“Mae'r holl gau gorfodol yn sgil pandemig byd-eang y coronafeirws wedi rhoi straen aruthrol ar y sefydliadau hyn. Byddai'r arian hwn gan Lywodraeth y DU yn mynd gryn ffordd i atal colli swyddi a sicrhau lles anifeiliaid.

“Fel y dywedais yn y cyfarfod llawn heddiw, mae'n bosib cyflwyno mesurau ymbellhau cymdeithasol ar gyfer y lleoedd hyn. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru gywiro'r sefyllfa hon a gadael i'n sŵau ailagor.

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree