Last Saturday Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, had the honour of addressing the Soroptimist International Great Britain & Ireland, Cheshire, North Wales & Wirral conference, held at the St George’s Hotel, Llandudno.
The guest speakers included Professor Gareth Wynne Jones, Annie Merry, and the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, all of whom spoke on the theme of the conference: ‘Climate Change the Environment and Us’.
With nearly 80,000 Soroptimists worldwide, it is clear that the organisation is having a positive impact globally. In fact they have been involved in and supporting the communities of North Wales for almost five decades.
Commenting after addressing the conference, Janet said:
“It was a privileged to be invited to speak at the Soroptimist conference in my hometown, and in relation to the work I am undertaking for the benefit of Aberconwy and Wales.
“I could think of no better place for a conference focussed on climate change to be held than here in Conwy County. Last week we were reminded of the serious threat of coastal flooding, yesterday the Conwy Valley braced for what threatened to be yet further serious flooding, and our beaches continue to be home to a worrying amount of plastic waste.
“With nearly 80,000 Soroptimists worldwide, the organisation has a fantastic opportunity to help empower women and girls locally, nationally and internationally to tackle climate change.
“I was pleased to outline numerous steps we can and should take, such as using our pounds to make a concerted effort to buy British wool clothing and household items, which would have a brilliant impact on our agricultural sector and help combat the frightening fact that an estimated 342 million barrels of oil are used each year in the production of synthetic fibres”.
ENDS
Ddydd Sadwrn diwethaf cafodd Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, y fraint o annerch cynhadledd Swydd Gaer, y Wirral a Gogledd Cymru Soroptimyddion Rhyngwladol Prydain ac Iwerddon, a gynhaliwyd yng Ngwesty St George's Llandudno.
Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys yr Athro Gareth Wynne Jones, Annie Merry, ac AS Aberconwy, a siaradodd pob un ohonynt ar thema'r gynhadledd: ‘Newid hinsawdd - yr Amgylchedd a Ni’.
Gyda bron i 80,000 o Soroptimyddion ledled y byd, mae'n amlwg bod y sefydliad yn cael effaith gadarnhaol yn fyd-eang. Yn wir, maen nhw'n weithgar yn yr ardal ac wedi bod yn cefnogi cymunedau yn y Gogledd ers bron i bum degawd.
Ar ôl annerch y gynhadledd, dywedodd Janet:
“Roedd hi’n fraint cael fy ngwahodd i siarad yng nghynhadledd y Soroptimyddion yn fy nhref enedigol, ac mewn perthynas â'r gwaith rwy’n ei wneud er budd Aberconwy a Chymru.
“Alla’i ddim meddwl am le gwell i gynnal cynhadledd sy'n canolbwyntio ar newid hinsawdd, nag yma yn Sir Conwy. Yr wythnos diwethaf cawsom ein hatgoffa am fygythiad difrifol llifogydd arfordirol, ddoe bu Dyffryn Conwy'n paratoi ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd difrifol pellach, ac mae gwastraff plastig yn dal yn bla ar ein traethau.
“Gyda bron i 80,000 o Soroptimyddion ledled y byd, mae gan y sefydliad gyfle gwych i helpu i rymuso menywod a merched yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
“Roeddwn yn falch o amlinellu nifer o gamau y gallwn ac y dylem eu cymryd, fel defnyddio ein punnoedd i wneud ymdrech ar y cyd i brynu dillad gwlân ac eitemau cartref o Brydain, a fyddai'n cael effaith wych ar ein sector amaethyddol ac yn helpu i fynd i'r afael â'r ffaith frawychus bod tua 342 miliwn o gasgenni o olew yn cael eu defnyddio bob blwyddyn i gynhyrchu ffeibr synthetig”.
DIWEDD