Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi croesawu’r cadarnhad bod y streic gyrwyr bysiau Arriva wedi'i gohirio, gyda’r cwmni bysiau yn cadarnhau y bydd ei wasanaeth bysiau yn ailddechrau yn y Gogledd fore heddiw (Gwener).
Yn rhoi sylwadau ar y datblygiad, dywedodd Janet:
“Rwy’n croesawu gohirio’r streic hon gan yrwyr a gyflogir gan Arriva Buses Wales a oedd, fel y gall fy mhostman ei gadarnhau, yn achosi aflonyddu mawr i fywydau pobl ledled y Gogledd, yn enwedig yr henoed a’r bregus nad oes ganddynt fynediad at fathau eraill o gludiant.
“I osgoi aflonyddwch fel hyn eto, mae’n hanfodol bod y ddwy ochr yn chwilio am ddatrysiad teg i’r anghydfod hwn cyn gynted â phosibl. Os na ellir gwneud hyn ar unwaith, byddwn yn annog y naill ochr a’r llall i ddefnyddio’r gwasanaeth cyflafareddu sydd ar gael.
“Ar adeg hanfodol i’n rhaglen cyflwyno brechiadau atgyfnerthu, gyda gofyn i drigolion ymweld â chanolfannau meddygol, mae darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd a dibynadwy yn rhan hollbwysig o’n hamddiffynfa.”
Mae pob gwasanaeth fod i redeg o’r bws cyntaf ar yr amserlen, ond mae Arriva yn rhybuddio y gallai gwasanaethau cynnar y bore barhau i brofi rhywfaint o aflonyddu wrth iddo gael trefn ar ei wasanaeth dros nos.
DIWEDD
Llun: gan Ant Rozetsky ar Unsplash