Wrth barhau â’i gwaith i nodi Wythnos Coed 2021, mae’r Aelod o’r Senedd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd - Janet Finch-Saunders AS - wedi sôn am ei gofid gyda’r newydd bod hanner cant o goed wedi syrthio yng ngerddi byd-enwog Bodnant yn Nyffryn Conwy yn ystod Storm Arwen, gyda staff yn dal i asesu maint y difrod.
Mae Bodnant yn gartref i bum Casgliad Cenedlaethol a llu o goed o fri, ac yn denu dros 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae Tîm Croeso penodedig yn gofalu amdanynt a 25 o arddwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr ardd yn cael ei chynnal i’r safonau uchaf posibl.
Ymhlith anffodusion y storm yr oedd coeden 140 oed cochwydden arfor, a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Coeden y Flwyddyn’ Coed Cadw yn 2017. Mae bryngaer goediog y Ffwrnais, a agorodd yn 2017, yn debygol o barhau ar gau am sawl mis wrth i’r gwaith clirio barhau.
Dywedodd Janet:
“Roedd Storm Arwen yn ein hatgoffa’n ddidostur o rym natur, ac mae’r holl achosion o wyntoedd cryfion, cyflym iawn yn debygol o gynyddu yn sgil newid hinsawdd. Mae’r adroddiadau am faint y difrod a achoswyd i Ardd Bodnant yn dorcalonnus.
“Wrth gydnabod y difrod ecolegol a grëwyd gan Storm Arwen, gyda llawer o goed hŷn ac arbennig wedi disgyn ar hyd a lled yr etholaeth, ddoe galwais ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud datganiad ar y mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gennym gymunedau sy’n gallu gwrthsefyll stormydd yn well.
“Mae’n hanfodol bod Wythnos Genedlaethol Coed yn cael ei defnyddio fel cyfle i’n sefydliadau drafod sut y gallwn ddiogelu ein cynefinoedd bioamrywiol rhag rhai o’r patrymau tywydd mwy eithafol a brofwyd, yn enwedig o ystyried manteision y coed hyn o ran rheoli llifogydd a gwres.”
Yn gynharach eleni, mewn ymweliad â’r gerddi, fe wnaeth Janet ganmol gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru a’u hymdrechion ar y cyd yn lleol i adfer cynefinoedd bioamrywiol a chynyddu’r gorchudd coed. Mae gan yr Ymddiriedolaeth uchelgeisiau i fod yn garbon sero-net yng Nghymru erbyn 2030 gyda’r nod o adfer 4,600 hectar o gynefinoedd â blaenoriaeth erbyn 2025.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS yn ymweld â Gardd Bodnant ym mis Medi 2021