Mewn ymateb i bryderon cynyddol am y datblygiad arfaethedig yng Nghaeau Bodafon, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi cyhoeddi cyfarfod rhithwir gyda rhanddeiliaid i’w gynnal ddydd Gwener 28 Mai 2021 am 16:30.
Y gobaith yw y bydd y cyfarfod rhithwir yn gyfle i gyflwyno cwestiynau i swyddogion o SATPLAN Ltd ac Anwyl, sy’n rhan o’r cais. Ymysg y rhanddeiliaid eraill, bydd cynrychiolwyr o Ysgol y Gogarth, Ysgol Bodafon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Llandudno.
Yn rhoi sylwadau cyn ei chyfarfod, dywedodd Janet.
“Mae angen fforwm brys ac agored ar y cynnig hwn gan ei fod eisoes yn achosi cryn bryder ymysg preswylwyr, gan gynnwys pryderon am golli tir amaethyddol, gan gloddio ymhellach i’r ffin naturiol hanesyddol rhwng Craig y Don a Craigside, parcio a thraffig.
“Yn wir, gyda Heol Nant-y-Gamar yn darparu mynediad i Ysgol y Gogarth ac ymlaen at Ysgol Bodafon, mae’r priffyrdd eisoes yn achosi traffig trwm a thagfeydd.
“Gyda rhieni eisoes yn mynegi pryderon am eu diogelwch eu hunain wrth geisio croesi’r briffordd, mae’n hollbwysig bod pryderon y rhanddeiliaid pwysig hyn yn cael eu clywed.
“Wrth barhau i wireddu fy ymrwymiad i dryloywder, a mod i eisoes wedi derbyn llawer o ohebiaeth ar y mater, rwy’n falch o fod yn cynnal y cyfarfod rhithwir hwn ddydd Gwener 28 Mai. Byddwn yn annog preswylwyr i ymuno â ni er mwyn gallu clywed safbwyntiau pawb.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Gall preswylwyr sydd â diddordeb fynychu’r sesiwn drwy e-bostio eu manylion at Janet.Finch-Saunders@Senedd.Cymru. I’r rhai na allant fynychu, bydd trosolwg yn cael ei gyhoeddi ar sianeli cymdeithasol yr Aelod.
Ffoto gan Chris Montgomery ar Unsplash.