Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn yn gysylltiedig â Storm Barra, wrth i wyntoedd uchel darfu ar ardaloedd o’r rhwydwaith brynhawn ’ma a heno (7 Rhagfyr 2021), gan darfu rhywfaint ar gyflenwadau trydan.
Beth i’w wneud yn achos toriad trydan cysylltiedig â’r tywydd?
O ystyried maint y rhwydwaith trydan, gall toriadau pŵer ddigwydd ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, gall toriadau pŵer mwy ddigwydd yn ystod stormydd, gyda gwyntoedd cryfion, glaw trwm a llifogydd yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith.
Os ydych chi am roi gwybod am doriad pŵer neu argyfwng, ffoniwch 105 i roi gwybod neu i gael gwybodaeth am ddiffyg trydan yn yr ardal leol. Mae 105 yn wasanaeth am ddim, sydd ar gael i bobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Fel arall, gallwch gysylltu â Rhif Cyswllt Brys i Gwsmeriaid Rhwydweithiau Ynni SP – 0800 001 5400 o linellau tir neu ffonau symudol.
Os oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd gallwch wirio statws toriadau pŵer drwy ar y map toriadau pŵer rhyngweithiol.