Wrth gynnal cyfarfod safle gyda phreswylwyr Heol Ffynnon Asa yn Eglwysbach, ynghyd â swyddogion o Dŵr Cymru ac adran Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi croesawu’r newyddion bod y rhanddeiliaid wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad cydweithredol i nodi ffynhonnell y difrod i ffordd leol.
Bydd cynllun gweithredu hefyd yn cael ei lunio yn dilyn yr ymchwiliadau hyn, gyda’r bwriad o adrodd yn ôl i etholwyr ym mis Chwefror 2022. Daw’r ymyrraeth yn sgil adroddiadau am werth blynyddoedd lawer o ddifrod difrifol i wyneb y ffordd. Yn ôl adroddiadau peirianneg a gyflenwyd gan breswylwyr, tybir bod y difrod hwn wedi’i achosi gan ollyngiad posibl o bibelli dŵr wedi’u difrodi o dan y ffordd.
Yn rhoi sylwadau ar y cynnydd hyd yma, dywedodd Janet:
“Mae nifer o etholwyr wedi dweud ei bod yn mynd yn anoddach i breswylwyr hŷn ac ymwelwyr gael mynediad ar droed at nifer o eiddo oherwydd y difrod, ac maent yn disgrifio rhai rhannau o’r ffordd fel bod yn beryglus i breswylwyr.
“Mae’r angen am gydweithio mor gadarnhaol i nodi achos y broblem wedi dod yn bwysicach fyth gan fod y sylfeini wedi dirywio i’r graddau bod llawer o etholwyr yn credu nad yw’n addas bellach i’w ddefnyddio’n rheolaidd gan gerbydau, sy’n peri gofid mawr i’r rhai sydd heb fawr o ddewis ond defnyddio’r ffordd bob diwrnod.
“Gyda’r adroddiadau peirianneg diweddar yn nodi gollyngiad posibl neu ddifrod i bibelli dŵr fel achos posibl y difrod, roeddwn i’n falch iawn o ddwyn ynghyd llawer o randdeiliaid er mwyn adolygu’r broblem wrth law. Edrychaf ymlaen at sicrhau canfyddiadau eu hymchwiliadau, cyn gynted â phosibl, yn y flwyddyn newydd.
“Mae sicrhau bod ein priffyrdd a llwybrau cyhoeddus yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn yn bwysig dros ben i mi. Ar ôl sicrhau cynllun gweithredu cadarnhaol gan Dŵr Cymru yn ddiweddar ynghylch y llifogydd a brofwyd gan breswylwyr ar Ffordd yr Orsaf yn Neganwy, byddwn yn annog unrhyw etholwyr sy’n poeni am ddiogelwch ffyrdd i gysylltu â fy swyddfa.”
DIWEDD
Ffoto: Janet yn annerch preswylwyr a rhanddeiliaid yn ystod y cyfarfod safle