Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ymgyrch lwyddiannus: achub ciosg ffôn Cwm Penmachno

  • Tweet
Tuesday, 1 October, 2019
World

Mae’r ymgyrch i achub ciosg ffôn yng Nghwm Penmachno wedi cario’r dydd yn dilyn gwaith dan arweiniad Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, ar ran oddeutu 90 o drigolion pryderus.

 

Daw’r newyddion cadarnhaol hwn yn sgil llythyr a anfonodd Janet at  y Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus. Erbyn hyn, rydyn ni’n deall y bydd peiriannydd yn ymweld â’r safle i sicrhau bod y ffôn yn gweithio’n iawn.

 

Meddai Janet:

 

“Dyma fuddugoliaeth i Gwm Penmachno a chysylltedd ardaloedd gwledig.

 

“Fel y dywedais o’r blaen, dw i byth yn barod i sefyll yn ôl a gweld cymuned mewn peryg o gael ei hynysu, felly mae’n wych o beth bod BT wedi dod at eu coed.

 

“Maen nhw’n cydnabod bod signal ffonau symudol yr ardal yn anwadal, ac y dylid cadw’r ciosg yma.

 

“Hefyd, bydd BT yn anfon peiriannydd i sicrhau bod y cyfarpar yn gweithio’n iawn.

 

“Mae hyn yn golygu y bydd gan drigolion yr ardal a’r ymwelwyr sy’n dod yma well siawns o gael gafael ar y gwasanaethau brys pe bai angen.

 

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned am ofyn i mi weithredu ar eu rhan, ac am eu cydweithrediad wrth ymgyrchu i gadw Cwm Penmachno mewn cysylltiad”.

 

DIWEDD

 

Dogfennau

 

Llythyr at Gyfarwyddwr Materion Cyhoeddus BT

 

Ymateb e-bost gan BT

 

Nodiadau:

 

“Keep Cwm Penmachno Connected”

Attachments

Attachment Size
Llythyr at Gyfarwyddwr Materion Cyhoeddus BT 875.46 KB
Ymateb e-bost gan BT 104.75 KB
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree