Mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi ymweld â phractis meddygol Craig y Don i ddysgu mwy am y pwysau sy'n wynebu gweithwyr gofal sylfaenol. Cynhaliwyd trafodaethau gyda Dr Paul Emmett a rheolwr y practis Sue Fairburn ar ôl i'r Aelod ysgrifennu at 14 o bractisau lleol i weld sut gallai helpu i ailgychwyn gwasanaethau'n well.
Diolch i'r ymweliad, gwelwyd sut mae'r feddygfa wedi gweithredu system ffôn newydd i ymdrin yn well â nifer y galwadau mae'r practis yn eu derbyn bob dydd. Hefyd, mae'r feddygfa wedi mynd ati i hyfforddi ei derbynyddion fel swyddogion llywio gofal a fydd yn eu helpu i ailgyfeirio cleifion i wasanaethau mwy addas lle bo'r angen, fel optegwyr a deintyddion.
Amlinellwyd hefyd fod gwasanaethau fel yr Uned Triniaethau Dydd yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno o gymorth mawr i ddarparwyr gofal sylfaenol gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw anfon y cleifion hynny a oedd angen ymchwiliad pellach yno, heb orfod eu derbyn i'r ysbyty o bosib.
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Janet:
“Yn dilyn pryderon cynyddol am nifer y preswylwyr sy'n dal i gael trafferth cael apwyntiad meddyg teulu wyneb yn wyneb, roeddwn yn falch o'r cyfle i ysgrifennu at 14 o bractisau a chynnal cyfarfodydd rhithwir gyda rhanddeiliaid i weld sut gallwn ni gynnig mwy o gefnogaeth.
“Wrth i mi barhau â'r gwaith hwn i'r flwyddyn newydd, roedd hi'n fraint cael fy ngwahodd i feddygfa Craig y Don i weld yn uniongyrchol sut mae eu staff yn gweithio'n ddiflino i ddelio â'r galw.
“Fel llawer o drigolion, roedd yr ymweliad hwn yn dangos bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dal i boeni wrth glywed nad oedd yr Uned Triniaethau Dydd wedi gweld unrhyw glaf yn 2021. Yn wir, mae'n ymddangos bod lleihau'r gwasanaethau hyn wedi cael effaith sylweddol ar ein meddygfeydd teulu, a allai fod yn cynyddu nifer y cleifion sy'n mynd i'r ysbyty, gyda rhai o bosib yn mynd yn ddiangen.
“Er fy mod i a'r practis yn croesawu'r cyhoeddiad am ward bontio newydd yn Ysbyty Llandudno, mae'r ffaith mai dim ond am 6 mis mae disgwyl iddi bara yn pwysleisio taw ateb tymor byr i broblem hirsefydlog yw hwn. Os ydym am fynd i'r afael yn well â'r holl alwadau ar ein meddygon teulu, mae'n hanfodol bod yr Uned Triniaethau Dydd yn ailagor i gleifion cyn gynted â phosibl”
Yn ddiweddar, fe wnaeth Janet gwrdd â Grwp Gweithredu Ysbyty Llandudno <https://www.janetfinchsaunders.org.uk/news/aberconwy-ms-commends-lhag-c…; i drafod yr angen am gam cadarnhaol ymlaen. Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd y dylai'r Bwrdd Iechyd fwrw ymlaen â chynllun strategol hirdymor ychwanegol i ddeall pa staff sydd eu hangen arnyn nhw ymhen blwyddyn.
Yn y cyfamser, mae Janet wedi lansio arolwg gofal iechyd ar-lein i geisio barn a phrofiadau ei hetholwyr o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd. Gall etholwyr fynegi barn yn: janetfinchsaunders.org.uk/healthsurvey
DIWEDD
Llun: Ymweliad Janet Finch-Saunders AS