Wrth gloi ei gweithgareddau Wythnos Hinsawdd Cymru 2021, mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi siarad am ei bwriad i archwilio'r posibilrwydd o sicrhau rhagor o safleoedd claddu mewn coetiroedd ledled Cymru, gan gynnwys dymuniad i weld safle o'r fath yn cael ei sefydlu i gefnogi dymuniadau claddu'r rhai sy'n byw yn nhref fawr Llandudno.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i Weinidog Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, gofynnodd Janet:
“A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hwyluso darpariaeth awdurdodau lleol o safleoedd claddu mewn coetiroedd?
Wrth siarad am ei hymyrraeth, dywedodd Janet:
“Trwy sicrhau bod y dewis o gladdedigaeth mewn coetir ar gael i bobl ledled Cymru, bydd unigolion yn gallu cael effaith barhaol a chadarnhaol ar ein hamgylchedd naturiol.
“Pa ffordd well sydd o ddathlu bywyd na phlannu coeden a fydd yn parhau i ddatblygu a thyfu bob dydd?
“Hefyd, bydd cofeb naturiol o'r fath yn cael effaith gadarnhaol ar ein dyhead ar y cyd i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.”
Ar hyn o bryd, dim ond dau safle claddu mewn coetiroedd sy’n weithredol yn etholaeth Aberconwy - Mynwent Rhandir Hedd a Mynwent Tan y Foel. Yn ôl adroddiadau, nid yw'r safle ym Mynwent Llanrhos yn derbyn claddedigaethau newydd ar hyn o bryd.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn plannu coeden.