Heddiw (16 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd y genedl i gynyddu nifer y profion swyddogaeth ysgyfaint a gynhelir ar unwaith.
Yn ôl ffigurau a gafwyd drwy gais Rhyddid Gwybodaeth i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, cynhaliwyd dros 300 o brofion swyddogaeth ysgyfaint bob mis rhwng misoedd Rhagfyr a Mawrth, gan gyrraedd uchafbwynt o 461 ym mis Ionawr 2020. Ond erbyn mis Ebrill, roedd hyn wedi gostwng i 36 prawf yn unig. Gyda llawer o oroeswyr Coronafeirws yn dioddef problemau resbiradol gydol y cyfnod adfer, mae meddygon wedi dweud y gallai profion ysgyfaint o’r fath fod yn ganolog i olrhain problemau hirdymor.
Wrth roi sylwadau ar yr hyn a ddatgelwyd dwy’r cais Rhyddid Gwybodaeth, dywedodd Janet:
“Mae’n achos pryder bod llai na 300 o bobl yn elwa ar brofion swyddogaeth ysgyfaint ledled y Gogledd, yn enwedig os gall profion o’r fath wella sut rydyn ni’n monitro’n hirdymor y problemau iechyd a allai godi o’r argyfwng Coronafeirws hwn.
“Wrth i ni edrych ymlaen at weld y wlad yn dod yn ôl ar ei thraed ar ôl y pandemig presennol, mae’n rhaid i Weinidog Iechyd Cymru weithio law yn llaw â’n byrddau iechyd i sicrhau cynnydd yn nifer y profion a gynhelir.
“Gyda feirws newydd fel COVID-19, mae monitro cleifion yn yr hirdymor yn allweddol er mwyn i’n swyddogion iechyd allu asesu effaith y clefyd yn iawn ar gleifion o bob oed. Rydw i wedi fy hysbysu y gallai profion swyddogaeth ysgyfaint fod yn ganolog i’r gwaith monitro hwn.
“Os yw rhywun yn ystyried bod nifer y bobl a aeth i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Gogledd hefyd wedi gostwng 56% ym mis Ebrill, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i roi sicrwydd i’r cyhoedd bod ein GIG yn agored ar gyfer busnes.”
DIWEDD
Ffotograff: Robine Weermeijer/UnSplash