Wrth holi Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gamau i wella mynediad at ofal sylfaenol ar draws yr etholaeth, mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog y Llywodraeth ddatganoledig i “werthuso’r costau hyfforddi a recriwtio sydd eu hangen i roi gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ym mhob meddygfa.”
Mae cyflwyno gweithiwr proffesiynol o’r fath bellach yn bwysicach nag erioed, meddai Mrs Finch-Saunders, o gofio bod dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi datgelu bod cyfran y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol wedi cynyddu o 11.7% yn ystod y cyfnod yn union cyn y pandemig i 28.1%. Credir y gallai’r nifer hwn fod wedi codi ymhellach ers cyhoeddi’r adroddiad yn wreiddiol.
Wrth sôn am ei chyfraniad y tu allan i’r Siambr, dywedodd Janet:
“Hoffwn weld pob unigolyn yn cael y grym i gael gafael ar y cymorth iechyd meddwl priodol pryd a lle bynnag sydd ei angen. Fel mae Mind Cymru wedi ei rybuddio, allwn ni ddim bod yn genedl sy’n defnyddio tabledi gwrth-iselder fel plastr er mwyn lleddfu trallod yn y tymor byr.
“Yn anffodus, mae’r llythyrau sy’n fy nghyrraedd i’n dangos bod diffyg perthnasoedd parhaol, llawn ymddiriedaeth ym maes gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd, gyda chleifion yn cael eu trosglwyddo o bared i bost oherwydd trosiant staff uchel.
“Mae sgyrsiau diweddar gyda meddygon teulu lleol wedi’i gwneud hi’n gwbl glir y byddai cael cymorth iechyd meddwl pwrpasol yn eu meddygfeydd yn fuddiol iawn ar yr adeg hon o adferiad.
“Mae darpariaeth o’r fath yn sicrhau y bydd cleifion yn cael trafodaeth iechyd meddwl gytbwys a fyddai’n caniatáu adolygiad o ba gymorth sydd ei angen arnyn nhw a pha help sydd ar gael, gan roi terfyn ar y dueddiad bryderus o droi at feddyginiaeth yn unig.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS