Mae Janet Finch-Saunders AC yn galw am ymchwiliad brys wedi iddi ddod i’r amlwg mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â’r nifer uchaf o ddigwyddiadau sydd wedi eu dosbarthu fel rhai ‘difrifol’ ac yn diweddu mewn marwolaethau yng Nghymru.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau sy’n diweddu mewn marwolaeth:
Betsi Cadwaladr – 41
Caerdydd a’r Fro – 12
Aneurin Bevan – 7
Hywel Dda – 7
Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru – 7
Powys – 3
Abertawe Bro Morgannwg – 0
Cwm Taf – 0
Ymddiriedolaeth GIG Felindre – 0
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru – 0
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau sydd wedi eu dosbarthu fel rhai ‘difrifol’:
Betsi Cadwaladr – 220
Caerdydd a’r Fro – 187
Aneurin Bevan – 31
Powys – 28
Cwm Taf – 9
Hywel Dda – 3
Abertawe Bro Morgannwg – 3
Ymddiriedolaeth GIG Felindre – 1
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru – 0
Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru – 0
Dywedodd Janet:
“Mae’r ffeithiau’n erchyll gan eu bod nhw’n dangos bod digwyddiadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi arwain at 41 o farwolaethau rhwng mis Hydref 2016 a mis Medi 2017.
“Pan mae rhywun yn mynd i’r ysbyty, rydyn ni’n disgwyl bod yn gwbl ddiogel. Mae’n ymddangos nad felly mae hi yn y Gogledd, gan fod data diogelwch cleifion yn dangos mai’r bwrdd iechyd hwn yw’r un sy’n perfformio waethaf yng Nghymru gyfan.
“O gofio’n ôl i 2015 pan roddwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig, un o’r prif resymau am hyn oedd y modd roedd cleifion yn cael eu trin.
“Gyda chofnodion bellach yn dangos bod digwyddiadau’r bwrdd iechyd yn chwarae gyda bywydau pobl, mae’n rhaid i mi gwestiynu gallu Llywodraeth Cymru i barhau i reoli’r bwrdd unwaith eto.
“Byddaf yn ysgrifennu at Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, i ofyn am ymchwiliad llawn ar fyrder”.
DIWEDD
Nodiadau: