Announcement: Closure of Llys Meddyg Surgery in Penmaenmawr
It is with the upmost disappointment that I recently learnt that the GP partners of Plas Menai and Llys Meddyg Practice have taken the very difficult decision to formally apply to Betsi Cadwaladr University Health Board (BCUHB) to close the branch surgery in Penamaenmawr. I understand that the principal reasons for this are continued difficulties with recruiting and illness cover, and the problems this is creating for maintaining high standards for patients.
Please be assured that I am fully aware of the significant difficulties this decision will cause, and that I will be putting further pressure on the Welsh Government to take meaningful steps to positively address the GP shortage we are experiencing here in North Wales. Already I have spoken out on the alarming fact that whilst the number of GPs is falling in North Wales, the number of registered patients have increased. In addition to calling on the Welsh Government to recruit and train more GPs in the area, most recently, I have asked for a medical school to be opened in Bangor. I am confident that this would provide a strong long term solution to the crisis we are all facing here.
In the meantime, I would be very grateful if you could make your opinions known to the health board and I so that I may continue to fight for the future of our medical practices in the National Assembly for Wales. It is important to remember that health has been devolved to the Welsh Government, and that as it is in direct control of BCUHB - whilst it remains in special measures –, the First Minister and Cabinet Secretary for Health and Social Services have a lot to answer for.
Cyhoeddiad: Cau Meddygfa Llys Meddyg ym Mhenmaenmawr
Roeddwn yn siomedig iawn i ddysgu’n ddiweddar bod Meddygon Teulu Meddygfa Plas Menai a Llys Meddyg wedi gwneud y penderfyniad anodd iawn o gysylltu yn ffurfiol efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i gau'r meddygfa cangen ym Mhenmaenmawr. Deallaf mai’r prif resymau am hyn ydi’r problemau parhaus efo recriwtio a chymorth yn ystod salwch staff, a’r problemau mae hyn yn creu efo cynnal safonau uchel i gleifion.
Byddwch yn sicr fy mod yn ymwybodol o’r problemau sylweddol y bydd y penderfyniad yma’n creu, ac y byddaf yn rhoi fwy o bwysau ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ystyrlon tuag at delio efo’r prinder o Feddygon Teulu yma’n Ogledd Cymru mewn ffordd bositif. Yn barod, rwyf wedi codi pryderon am y ffaith tra bod nifer y meddygon teulu yn lleihau yn Ggledd Cymru, mae’r nifer o gleifion sydd wedi cofrestru wedi cynyddu. Yn ogystal â galw ar Lywodraeth Cymru i recriwtio a hyfforddi mwy o feddygon teulu, yn ddiweddar, rwyf wedi gofyn am gael agor ysgol feddygol ym Mangor. Rwyf yn hyderus y basa hyn yn ateb tymor hir i'r argyfwng rydym i gyd yn gwynebu yma.
Yn y cyfamser, buaswn yn ddiolchgar petai chi’n mynegi eich barn i’r bwrdd iechyd a minnau fel fy mod yn gallu parhau i gwffio dros ddyfodol ein meddygfeydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n bwysig cofio bod iechyd wedi ei datganoli i Lywodraeth Cymru, a gan ei fod mewn rheolaeth uniongyrchol o BIPBC – tra ei fod yn parhau i aros mewn mesurau arbennig –, bod gan Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lot i ateb am.