Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael gafael ar ffigyrau sydd yn dangos tryloywder gwael yn gynghorau tref a chymuned ledled Cymru, wrth i fynediad i gofnodion a chyfarfodydd fod yn ‘anghyson’.
Allan o’r 734 cyngor cymunedol yng Nghymru, nid oes gan 10% (74) wefan, tra bod 69 heb e-bost a 19 ddim efo presenoldeb ar lein.
Mae defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn frin, efo dwy ran o dair o 510 o gynghorau heb fynediad i Facebook na Twitter - sydd yn costio dim i'w rhedeg. Mond 85 cyngor sydd efo’r ddau, tra bod 126 mond efo Facebook a 12, Twitter.
Mae cyfieithiad Cymraeg hefyd yn frin gan fod dim ond traean (245) o 659 o’r cynghorau sydd efo wefan efo’r opsiwn o gyfieithu tudalennau mewn i Gymraeg neu Saesneg.
Sir Gar sydd efo’r nifer mwyaf (5) o gynghorau tref a chymunedol heb bresenoldeb ar lein, tra bod Ceredigion a Conwy efo 4 pedwar yr un.
Mae hyn pum mlynedd ar ôl Deddf Llywodraeth Llafur Cymru: Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Yn ôl y ddeddfwriaeth mae rhaid i gynghorau cymunedol gyhoeddi gwybodaeth a hysbysiadau yn electronig.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o gynghorau tref a chymuned.
Dywedodd Janet Finch-Saunders, Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar gyfer Llywodraeth Leol:
“Tra bod Llywodraeth Llafur Cymru efo obsesiwn ac ad-drefnu cynghorau, nid ydynt wedi llwyddo i gyflawni eu hamcanion deddfwriaethol a bennwyd pum mlynedd yn ôl.
“Mae’r ffaith bod nifer mor fawr o gynghorau cymuned a thref, sydd yn gyfrifol am arian cyhoeddus ac yn gwneud penderfyniadau ar ran cymdeithas, yn gweithio mewn ffordd mor gyfrinachol yn warthus ac, yn syml, yn gwrth-ddemocrataidd.
“Os ydi Cymru yn wlad ddemocrataidd, yna ni ellir goddef y diwylliant caeedig yma.
“Mae sefydlu gwefan a chael cyfeiriad e-bost yn rhan hawdd a sylfaenol o ymgysylltu, ac mae gwneud cofnodion a chyfarfodydd yn gyhoeddus yn cael eu mynnu gan gyfraith y wlad.
“Mae’n amser i Ysgrifennydd y Cabinet dyfu asgwrn cefn a deud wrth cynghorau tref a chymunedol bod rhaid iddynt foderneiddio a derbyn yr atebolrwydd sy'n dod gyda'r swydd”.
DIWEDD