Ar ôl canfod mai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mae’r nifer uchaf o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y GIG yng Nghymru, mae Janet Finch-Saunders, y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, yn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r oedi hynny.
Ystyr oedi wrth drosglwyddo gofal yw pan fo claf mewnol mewn ysbyty, sy’n barod i symud i’r cam nesaf o ofal, yn cael ei atal rhag gwneud hynny am un rheswm neu’r llall.
Ym mis Awst 2019, cofnododd y Bwrdd Iechyd 99 achos o oedi wrth drosglwyddo gofal. Roedd 81 achos o aros am hyd at dair wythnos, 7 am hyd at 6 wythnos, a 2 dros 26 wythnos. Dyma’r nifer uchaf ers mis Hydref 2018.
Wrth drafod y cynnydd mewn oedi, dywedodd Janet:
“Mae’n boen meddwl go iawn bod cleifion mewnol yn parhau i wynebu oedi diangen yn nilyniant eu gofal.
“Rwyf wedi ystyried achosion yr oedi yn ein bwrdd iechyd yn fanwl, ac mae’n ymddangos mai’r prif broblemau yw’r trefniadau gofal cymunedol, y gofal sydd ar gael mewn cartrefi gofal a threfniadau gofal iechyd.
“Yr wythnos diwethaf, neilltuais fy nadl gryno i egluro sut gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi cartrefi gofal a rhoi diwedd ar y duedd i gau’r cartrefi hyn, ac fe ddylai helpu gyda’r gofal sydd ar gael os yw’r Dirprwy Weinidog yn cadw at ei gair ac yn rhoi fy mholisïau ar waith.
“Fodd bynnag, mae’n bryd i ni ddelio ag oedi wrth drosglwyddo gofal nawr drwy roi strategaeth glir ar waith – dylai hyn helpu i wyrdroi’r nifer cynyddol o gleifion sy’n dioddef.
“Mae gen i brofiad personol o’r straen mae’r sefyllfa yn ei achosi i gleifion a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Felly, gallwch fod yn siŵr y byddaf yn dal ati i weithio i helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hunain yn yr un strach”.
DIWEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad i Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
All y Gweinidog egluro sut y byddwn yn ymdrin â’r cynnydd yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Nodiadau:
Oedi wrth drosglwyddo gofal: Awst 2019
Hyd yr oedi yn ôl darparwr Bwrdd Iechyd Lleol a band oedi