Yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau bod cronfeydd ariannol wrth gefn Cyngor Tref Penmaenmawr wedi’u defnyddio bron i gyd a bod angen cyflwyno toriadau brys i gydbwyso’r llyfrau, a bod trigolion lleol wedi codi pryderon difrifol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei hadolygiad o gyfrifon y Cyngor ar gyfer 2013-14 hyd 2018-19. Mewn ymateb i’r casgliadau, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi galw ar Gyngor Tref Penmaenmawr i dderbyn yr holl gynigion a gweithredu ar yr holl argymhellion. Hefyd, mae’n gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu’r cyngor a’r canllawiau sydd ar gael i gynghorau tref a chymuned ledled Cymru yn y gobaith o osgoi argyfwng ariannol tebyg eto.
Mae’r casgliadau niferus yn codi braw. Fel yr ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Mae canfyddiadau fy archwiliad yn dangos diffygion hirsefydlog o ran llywodraethu, rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol yn y Cyngor a chânt eu crynhoi isod. Maent hefyd yn datgelu tensiynau a diffyg parch ac ymddiriedaeth rhwng aelodau o’r Cyngor a’i gilydd nad ydynt o fudd i’w enw da nac o ran darparu gwasanaethau ar gyfer y trigolion”.
Mae’r casgliadau yn cynnwys:
- Mae’r Cyngor wedi bod yn gwario ar lefel anghynaladwy dros y tair blynedd ddiwethaf a dim ond am amser cyfyngedig y mae wedi gallu dibynnu ar ei gronfeydd ariannol wrth gefn.
- Mae’n iawn fod gorwariant y Cyngor yn achos pryder i’r cyhoedd.
- Mae’r Cyngor wedi ymddiheuro am ei reolaeth ar gyllid cyhoeddus ac yn derbyn nad yw hyn yn gyson â’r safonau uchel a ddisgwylir gan gyngor lleol.
- Mae swyddogion presennol a chyn-swyddogion y Cyngor a’r Cynghorwyr eu hunain yr un mor atebol am y methiannau hyn.
- Ni wnaeth y Cyngor graffu digon ar y cyfrifon a’r datganiad llywodraethu blynyddol cyn cymeradwyo’r ffurflen flynyddol.
- Mae trefniadau llywodraethu’r Cyngor yn anghyson â’r datgeliadau cadarnhaol y mae’n eu gwneud amdanynt yn ei Gyfrifon Blynyddol, ac mae’r datgeliadau hyn yn ffeithiol anghywir ac yn gamarweiniol.
- Roedd trefniadau’r Cyngor ar gyfer pennu a monitro’r gyllideb yn aneffeithiol ac ni wnaethant ei ddiogelu rhag yr orddibyniaeth ar gronfeydd ariannol wrth gefn.
- Nid dealltwriaeth briodol o gyfansoddiad ei gronfeydd wrth gefn nac unrhyw reolaethau effeithiol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n unol â’u dibenion bwriedig.
- Fe wnaeth archwilydd mewnol y Cyngor uwchgyfeirio ei bryderon am wendidau yn y trefniadau ar gyfer pennu a monitro’r gyllideb ond fe wnaeth y rhain osgoi sylw’r Cyngor.
- Nid yw trefniadau’r Cyngor i sicrhau datganiadau buddiant priodol yn ddigon tryloyw ac maent yn lleihau hyder y cyhoedd yn ei atebolrwydd.
- Mae angen i’r Cyngor wella cysondeb a thryloywder ei drefniadau caffael hefyd.
- Nid oes unrhyw dystiolaeth bod aelodau o’r Cyngor wedi elwa’n bersonol ar bwrs y wlad.
- Nodwyd tensiynau sylweddol o fewn aelodaeth y Cyngor.
- Nid rôl yr Archwilydd yw rhoi bai ar unrhyw grŵp neu unigolyn yn y Cyngor am y tensiynau sy’n amlwg o’i archwiliad, ond “bod y sefyllfa’n niweidio enw da’r Cyngor a’i bod yn niweidiol i fuddiannau’r gymuned leol”.
Wrth ymateb i’r adroddiad, meddai Janet:
“Rwy’n diolch i’r Archwilydd Cyffredinol am gynnal ymchwiliad mor drylwyr.
“Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith fod Cyngor Tref Penmaenmawr yn cefnogi sawl prosiect cymunedol, ond mae’n ymddangos yn hynod anghyfrifol i mi ei fod wedi gwario ar lefel anghynaliadwy dros y tair blynedd diwethaf.
“Hyn ar adeg pan mae trigolion Penmaenmawr wedi wynebu cynnydd aruthrol yn eu praesept y dreth gyngor.
“Erbyn hyn, mae Cyngor Tref Penmaenmawr ar seiliau ariannol mwy cynaliadwy, ond credaf fod rhaid cael rhywfaint o atebolrwydd am yr hyn a alwodd yr Archwilydd yn ‘argyfwng ariannol’.
“Ar ben hynny, mae’n drist deall am honiadau o ddiwylliant o fwlio a bod cynghorwyr wedi bod yn pleidleisio fel defaid heb y wybodaeth berthnasol.
“Mae’n ofynnol i’r Cyngor drin a thrafod yr adroddiad mewn cyfarfod llawn o fewn mis i’w gyhoeddi, a phenderfynu pa gamau i’w cymryd mewn ymateb.
“Rwy’n galw ar y cynghorwyr sy’n weddill i ystyried derbyn a gweithredu holl argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, a chyflwyno datganiad i’r perwyl hwnnw.
“Byddaf yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu’r cyngor a’r canllawiau sydd ar gael i holl gynghorau tref a chymuned ein gwlad, gan obeithio na welwn ni’r fath argyfwng ariannol yn codi byth eto.”
DIWEDD
Nodiadau:
Council overspending exhausts reserves