Yn ystod Wythnos Gofal Hosbisau, mae Llywodraeth Cymru wedi dod dan bwysau i ddarparu mwy o gymorth i Tŷ Gobaith yn 2020/21. Mae’r galwadau hyn yn cael eu harwain gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Blant, wedi iddi gael gwybod mai incwm mis yn unig y mae’r sefydliad yn ei dderbyn gan ffynonellau statudol.
Yn dilyn digwyddiad arbennig ar gyfer hosbisau yn y Senedd, meddai Janet:
“Roedd yn bleser gen i gael y cyfle i gyfarfod Eluned a Kate yn ystod Wythnos Gofal Hosbisau.
“Mae’r gofal a’r cymorth sy’n cael ei ddarparu yn Tŷ Gobaith yn amhrisiadwy i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu bywyd, eu ffrindiau a’u teuluoedd.
“Yn wir, dylai Hosbisau Plant Tŷ Gobaith ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi gallu cefnogi 750 a mwy o deuluoedd lleol.
“Mae hyn yn costio llawer iawn o arian: £6.5 miliwn bob blwyddyn.
“Realiti’r sefyllfa yw mai dim ond incwm mis yn unig sy’n dod o ffynonellau statudol, sy’n golygu bod yr hosbis yn ddibynnol ar roddion am 11 mis o’r flwyddyn.
“Mae’n destun gofid bod gwasanaeth mor bwysig mor ddibynnol ar eich caredigrwydd, felly byddaf yn ceisio gweld a oes modd i Tŷ Gobaith gael rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru”.
DIWEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad i Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar ôl canfod bod Tŷ Gobaith yn ddibynnol ar gymorth cyhoeddus i gynnal ei wasanaethau am 11 mis o’r flwyddyn, a fydd Llywodraeth Cymru’n egluro pa gymorth mae’n ei ddarparu ar hyn o bryd ac a fydd hyn yn gwella yn 2020/21?
Nodiadau:
Llun:
Janet Finch-Saunders AC gydag Eluned Yaxley a Kate Jones o Tŷ Gobaith