Mae Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog, wedi gwrthod gwneud adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd. Dyma ei ymateb wrth gael ei holi gan Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, wrth iddi hyrwyddo CPR a chodi pryderon am y “trychineb cardiaidd” sy’n cael ei greu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, meddai Janet:
“Rwy’n deall pryder y Prif Weinidog y bydd cytuno i un cais am eithriad wrth lunio’r cwricwlwm newydd yn agor y llifddorau i geisiadau i gynnwys pynciau eraill. Serch hynny, beth sy’n fwy pwysig na dysgu sut i achub bywyd?
“Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, gallai bron i un o bob pedwar oroesi pe bai pob person ifanc yn derbyn hyfforddiant.
“Mae pob awdurdod lleol yn yr Alban wedi ymrwymo i addysgu CPR.
“Bydd plant yn Lloegr yn dysgu CPR a sgiliau achub bywyd eraill o fis Medi 2020 ymlaen.
“Ond yma yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwneud hyfforddiant CPR yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd.
“Dyma drychineb cardiaidd go iawn, sy’n gwneud i mi amau eisoes a fydd y cwricwlwm newydd yn cynnig y ffordd orau ymlaen i blant yng Nghymru”.
Nodiadau:
Questions to the First Minister: Teaching Basic First Aid in Schools
Compulsory CPR lessons rejected for schools in Wales