Mae llythyr wedi’i anfon at Lywodraeth Cymru yn gofyn am i gamau gael eu cymryd i helpu i leihau’r posibilrwydd y bydd Aberconwy a Chonwy yn dioddef argyfwng economaidd yng ngoleuni COVID-19. Mae’r llythyr a anfonwyd gan Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd, yn tynnu sylw at y canfyddiadau bod cymaint â 13,000 o swyddi mewn perygl yma, ac mai Llandudno yw un o’r cymunedau sydd wedi’i heffeithio waethaf yng Nghymru a Lloegr.
Mae wedi gofyn i Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, i wneud y canlynol:
- cynnal cyfarfod rhithwir i drafod strategaeth i helpu Sir Conwy a Llandudno
- datblygu mecanwaith cymorth masnachol effeithiol ar lefel leol i gynorthwyo busnesau i gynllunio eu strategaethau adfer
- cyflwyno rhaglenni cadw a datblygu sgiliau cyn gynted â bod hynny’n ymarferol yn y sectorau sydd wedi’u heffeithio waethaf i sicrhau nad oes gallu yn cael ei golli a bod cyfle i uwchsgilio’r gweithlu lleol mewn cyfnod o ddiffyg gweithgarwch gorfodol
- darparu rhaglen o gymorth ariannol sy’n targedu’r sectorau sydd yn y perygl mwyaf , fel grantiau ardrethi busnes, diwygiadau i bolisi rhyddhad ardrethi, a chronfeydd trefi glan môr a marchnad
Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Llandudno a Dyffryn Conwy yw calon cynnig twristiaeth Cymru.
“Mae’r budd economaidd i’n sir oddeutu £900 miliwn diolch i gymaint â 9.5 m miliwn o ymwelwyr.
“Mae ymwelwyr wedi’u stopio yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Dyma’r peth iawn i’w wneud i helpu i ddiogelu ein hiechyd, ond ni allwn anghofio’r effaith ar y gymuned a’r economi.
“Mae 13,000 o swyddi mewn perygl yng Nghonwy, ac mae adroddiad newydd yn edrych ar effaith y pandemig yn ein trefi a’n dinasoedd yng Nghymru a Lloegr wedi canfod bod Llandudno wedi’i heffeithio’n benodol.
“Mae’r adroddiad yn glir y bydd angen ymyriadau ychwanegol i sicrhau nad yw’r sioc gychwynnol a achoswyd gan COVID-19 yn datblygu’n ddifrod parhaol, felly rwy’n brwydro dros ddyfodol ein hardal.
“Rydw i wedi cyhoeddi llythyr brys at Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn gofyn iddo weithio gyda mi i gymryd sawl cam i leihau’r posibilrwydd bod Aberconwy a Chonwy yn dioddef argyfwng economaidd.”
DIWEDD