Bydd gwaith ar groesfan sebra a phalmantau'n cychwyn yng Nglan Conwy ddydd Llun (15 Mehefin 2020). Mae hyn yn dilyn wyth mlynedd o ymgyrchu am groesfan ddiogel gan Janet Finch-Saunders AS a'r gymuned leol. Wrth sôn am y gwaith, dywedodd Janet:
“Ers tua wyth mlynedd rydw i wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned i sicrhau croesfan sebra yng Nglan Conwy.
“Rydym wedi protestio, ac rydw i wedi ysgrifennu llythyrau a gofyn cwestiynau di-ri i weinidogion Llywodraeth Cymru.
“Law yn llaw â'n hymgyrch gymunedol, yr hyn a sicrhaodd bod y groesfan yn cyrraedd y ffordd mewn gwirionedd oedd tynnu sylw at y ffaith y bydd y gwelliannau arfaethedig yn Black Cat yn debygol o arwain at well llif traffig ar hyd yr A470 tua'r gogledd yng Nglan Conwy.
“Rydw i'n edrych ymlaen at weld y groesfan yn agor ymhen mis, gan uno dwy ochr y pentref yn ddiogel”.
DIWEDD