Heddiw (15 Mehefin), mae Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Gweinidog Iechyd Cymru i ailfeddwl ei ddull o gynnal profion yn y sector gofal cymdeithasol.
Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales ddydd Sul, dywedodd Vaughan Gething AS nad oedd yn anelu at ganlyniadau profion 'safon aur' o fewn 24 awr. Ar 31 Mai, dychwelwyd 55.5% o'r profion a gynhaliwyd mewn unedau profi coronafeirws o fewn 24 awr, ond ar 9 Mehefin roedd y ffigur wedi gostwng i 48.2%.
Mae Mrs Finch-Saunders wedi gofyn ers tro i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch amseroedd aros prawf, gan dynnu sylw yn ddiweddar at anghyfartaledd rhanbarthol o ran cyfnodau aros ar gyfer staff rheng flaen.
Wrth ymateb i sylwadau'r Gweinidog Iechyd, dywedodd Janet:
“Rwy'n poeni'n fawr am sylwadau Vaughan Gething dros y penwythnos.
“Mae'r ffaith nad yw'n ymddangos ei fod hyn yn rhoi nod o gyrraedd y safon aur yn cadarnhau'r amheuaeth bod rhaglen brofi Llywodraeth Cymru ar chwâl. Mae preswylwyr yn aros yn rhy hir o lawer am ganlyniadau a does dim safon gyfartal wedi’i osod ym mhob man, gan arwain at wahaniaethau rhanbarthol.
“Rwy'n annog Gweinidog Iechyd Cymru i ailfeddwl ei ddull o gynnal profion, er mwyn sicrhau y gall staff iechyd a gofal cymdeithasol ddychwelyd i'r rheng flaen mewn ffordd effeithlon. Dylem osod nod o fod yn arwain y DU yn ein rhaglen brofi, gyda'r safon aur o gynhyrchu canlyniadau o fewn 24 awr.
“Rwyf wedi gofyn a gofyn am broses brofi effeithlon ledled Cymru, gan sicrhau nad oes un rhanbarth yn cael ei adael ar ôl yn annheg. Heb ailystyried, mae Llywodraeth Cymru yn peryglu bywydau yn ddiangen.”
DIWEDD