Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn tynnu sylw at bryderon trigolion lleol. Daw ei llythyr brys yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener am lacio rhai cyfyngiadau COVID-19.
Mae rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru, gyda rhai wedi dod i rym ddoe, yn dweud nad yw’r gofyniad i aros yn lleol wedi newid. Fodd bynnag, gall pobl deithio y tu allan i’w hardal leol ar ‘sail dosturiol’ yn awr, sy’n cynnwys gweld perthynas hŷn mewn cartref gofal neu blentyn mewn sefydliad troseddwyr ifanc.
Wrth siarad am ei llythyr at y Prif Weinidog, dywedodd Janet:
“Er fy mod yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig o’r diwedd i ailagor economi’r genedl, rwy’n siomedig iawn clywed y newyddion y bydd y rheol 5 milltir greulon ar waith tan 6 Gorffennaf.
“Mae’n peri gofid nad yw’r Prif Weinidog yn llwyr amgyffred realiti byw yn y Gogledd, lle mae pobl yn gorfod teithio’n llawer pellach yn aml i siopa bob wythnos, heb sôn am weld eu teuluoedd.
“Hoffwn atgoffa Mark Drakeford a’i weinyddiaeth bod y rheol 5 milltir greulon yn cael effaith negyddol enfawr ar les meddyliol pobl, gydag etholwyr yn cael eu cadw oddi wrth eu hanwyliaid bregus yn ddiangen mewn cyfnod anodd dros ben.
“Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog egluro a yw wedi ymgynghori â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar effaith y gofyniad i aros yn lleol ar yr unigolion y maent yn eu cynrychioli. Dylai’r Prif Weinidog ddatgan yn glir hefyd y gall teuluoedd deithio unrhyw bellter i weld eu hanwyliaid.”
DIWEDD