Mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Blant a Phobl Ifanc – Janet Finch-Saunders AS – wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru heddiw (30 Mehefin) i roi lle canolog i'n plant yn ei chynlluniau i adfer yr economi.’
Cyn COVID-19, roedd rhestrau aros Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ieuenctid yn annerbyniol o hir, a'r gwasanaethau a oedd yn cefnogi teuluoedd ac amddiffyn plant rhag cael eu hesgeuluso ar fin methu’n llwyr.
Daw ei hapêl wrth i Boris Johnson, Prif Weinidog y DU gyhoeddi ei 'fargen newydd', gyda'r nod o leddfu effaith economaidd Coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys uwchraddio ysgolion a chyfleusterau ysbytai yn Lloegr. Mae Mrs Finch-Saunders yn pwyso ar Brif Weinidog Cymru yn awr i sicrhau bod yr un ethos o 'fuddsoddiad tymor hir' yn digwydd yng Nghymru hefyd, lle mae'r materion hyn wedi'u datganoli.
Wrth drafod y sefyllfa, meddai Janet:
“Mae pandemig COVID-19 wedi bwrw cysgod anghyffyrddus o ansicrwydd dros ragolygon ein plant ar gyfer y dyfodol. Dros nos fwy neu lai, bu'n rhaid i'r rhwydweithiau cymorth a oedd yn helpu i feithrin meddyliau ein pobl ifanc a chadw eu cyrff yn iach, newid neu gau dros dro.
“Wrth i ni ddechrau ailagor cymdeithas Cymru yn ehangach, rhaid i Lywodraeth Cymru roi ein plant wrth galon ei chynlluniau ar gyfer adferiad economaidd a blaenoriaethu'r rhwydweithiau cymorth hynny sy'n caniatáu i'n pobl ifanc ffynnu mewn cyfnod o ansicrwydd.
“Rhaid iddyn nhw hefyd geisio efelychu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i fuddsoddi yn y cyfleusterau hynny yn yr hirdymor, er mwyn meithrin a chefnogi'r genhedlaeth nesaf drwy fabwysiadu cynllun arloesol, traws-sector.
“Ni allwn ddychwelyd i'r sefyllfa flaenorol, lle'r oedd ein pobl ifanc yn gorfod aros am ormod o amser o lawer i gael y cymorth maent ei angen. Er mwyn cael dyfodol disglair, rhaid i Gymru ddarparu'r sgiliau a'r adnoddau i'n pobl ifanc ffynnu."
DIWEDD