Heddiw (25 Awst), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi strategaeth Cronfa Trefi Glan Môr benodol ar waith a fyddai’n ystyried y misoedd masnachu anodd sy’n ein hwynebu dros y gaeaf.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Trefi Glan Môr, i gefnogi adfywio cymunedol. Byddai Cronfa o’r fath yn cydnabod y cyfraddau swyddi adwerthu uwch a lefelau uwch o amddifadedd yn y trefi hyn, o gymharu â rhannau eraill o Gymru.
Yn rhoi sylwadau ar bryderon busnesau lleol, dywedodd Janet:
“Mae’r pandemig COVID-19 wedi rhoi ergyd ar ôl ergyd o bob cyfeiriad i fy etholaeth yn Aberconwy. Gyda chyfran uwch o weithwyr yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan y cyfnod clo, daeth astudiaeth ddiweddar i’r casgliad mai Conwy oedd y sir yng Nghymru lle’r oedd y mwyaf o swyddi mewn perygl.
“Er gwaetha’ llythyr ar ôl llythyr a chyfarfodydd ffôn gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, rwy’n anobeithio bod gweinyddiaeth Mark Drakeford wedi gwrthod gweithredu ar fy nghynnig i fformiwleiddio strategaeth benodol, wedi’i llunio i gefnogi’r rhanbarthau hynny sydd wedi’u heffeithio fwyaf.
“Cyn gaeaf sy’n debygol o fod yn un caled dros ben o ran masnachu, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ateb galwadau’r Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno ein cynnig Cronfa Trefi Glan Môr uchelgeisiol, a fyddai’n galluogi cymunedau i benderfynu sut y buddsoddir arian cyhoeddus.
“Mae’n rhaid dwyn cynllun gweithredu cymorth ar unwaith gerbron Senedd Cymru, gan fy mod yn ofni y bydd adferiad economaidd Cymru yn cael ei ddrysu wrth i Fae Caerdydd anwybyddu’r tymor anodd sy’n ein hwynebu yn y gaeaf eleni.”
DIWEDD
Ffoto: Patrick Metzdorf/UnSplash