Heddiw (16 Medi), galwodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyllid ar gyfer cynlluniau risg llifogydd mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan Storm Francis yn y Gogledd-orllewin.
Daeth ei galwadau yn ystod cwestiynau i Lesley Griffiths AS, Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru. Tarodd Storm Francis y DU rhwng 24 a 27 Awst 2020 a chafwyd gwynt a glaw mawr. Bu’n rhaid achub oddeutu 40 o unigolion o hafotai ym Methesda, yn ogystal â phobl o bum tŷ ym Meddgelert.
Gan roi sylwadau ar ei galwadau am gyllid, dywedodd Janet:
“Ym mis Awst, mi wnaeth Storm Francis ddifrod mawr iawn yn y Gogledd-orllewin gyda’r A55 fel afon ger Abergwyngregyn, unigolion yn cael eu hachub o hafotai ym Methesda, a busnesau yn cael eu distrywio ym Meddgelert.
“Gyda hyn mewn golwg, rydw i wedi dychryn o weld nad yw Cynllun Buddsoddi Cyfalaf Rheoli Risg Llifogydd Llywodraeth Cymru 2020-2021 yn cynnwys cyllid a fyddai’n amlwg o fudd i breswylwyr Beddgelert, Abergwyngregyn, Bethesda, nac eiddo hanesyddol Gwydir, yn y tymor byr.
“Mae’r achosion hyn o lifogydd yn digwydd yn llawer rhy aml, gan ddod â’r bygythiad amlwg o newid hinsawdd i drefi a phentrefi’r Gogledd-orllewin. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu’r cyllid ar gyfer cynlluniau risg llifogydd yn yr ardaloedd hynny sydd wedi’u heffeithio gan y storm ddiweddaraf, a hynny ar frys.
“Ar ran Cymru gyfan, rwyf hefyd wedi gofyn i’r Gweinidog pan na chyhoeddwyd unrhyw gyllid brys ar gyfer atal llifogydd yn sgil Storm Francis. Mae cymunedau mewn perygl o gael eu gadael heb y cymorth ariannol angenrheidiol sydd ei angen arnyn nhw i ailadeiladu eu busnesau a’u bywoliaethau.”
DIWEDD