Heddiw (15 Ionawr), mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiogelu athrawon ysgol sy'n rheoli canolfannau gofal plant, a chydweithio â'r Gweinidog Iechyd i gyflymu brechiadau i athrawon ysgol.
Mae Mrs Finch-Saunders wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig brys (gweler y testun isod) i Lywodraeth Cymru, yn dilyn pryderon lleol. Daw ei hymyriad wrth i rai ysgolion yr etholaeth ddweud bod mwy o blant nag erioed wedi dychwelyd ers gwyliau'r Nadolig. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos hon, dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth gyfarfod rhithwir y Senedd nad oedd unrhyw gynlluniau i flaenoriaethu pigiadau i'r rhai sy'n gweithio ar reng flaen addysg.
Mae swyddogion y sector yn poeni am y bygythiad cynyddol o drosglwyddo'r haint i staff a disgyblion. Yn ôl TAG Brief: Variant of Concern (VOC 202012/01) ac Addysg yng Nghymru, byddai'r gyfradd atgynhyrchu yn is gan fod ysgolion ar gau oherwydd llai o gymysgu cymdeithasol.
Wrth siarad yn dilyn ei Chwestiwn Ysgrifenedig, dywedodd Janet:
“Rydym i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar ein hathrawon a'n staff ysgol rhagorol ar hyn o bryd, wrth iddynt gymysgu dulliau dysgu wyneb yn wyneb â sesiynau dosbarth rhithwir i sicrhau nad oes unrhyw blentyn ar ei golled. Mae eu dyfalbarhad a'u hymroddiad i'w proffesiwn yn glodwiw ac yn rhywbeth y dylem i gyd ei chymeradwyo.
“Fodd bynnag, yn fy sgyrsiau diweddar â staff yr ysgol, mae'n amlwg bod y problemau sy'n eu hwynebu wedi'u gwaethygu gyda'r cynnydd sydyn yn nifer y plant gweithwyr allweddol sy'n cael eu hanfon i'r ysgol ers y flwyddyn newydd.
“Mae un ysgol gynradd yn Aberconwy wedi cyhoeddi datganiad yn apelio ar rieni i gofio mai lle sy’n cynnig gofal yw’r Hwb pan nad oes dewis arall ar gael. Yn amlwg, gallwn gymryd mai po fwyaf o blant sy'n mynychu’r hybiau, yr uchaf yw'r risg o drosglwyddo.
“Dyma pam rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i ddiogelu athrawon ysgol sy'n rheoli canolfannau, gan gynnwys drwy weithio gyda'r Gweinidog Iechyd i gyflymu brechiadau i athrawon ysgol. Allwn ni ddim tanseilio iechyd a diogelwch y gwarcheidwaid hyn.”
DIWEDD