Heddiw (20 Ionawr), anogodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders AS – Lywodraeth Cymru i lynu at ei hamserlenni brechu gwreiddiol fel ffordd o wynebu iechyd meddwl gwael ymysg trigolion hŷn.
Cyflwynwyd yr ymyriad ar ffurf cwestiwn i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg. Wrth roi sylwadau ar yr angen i fynd i’r afael ag iechyd meddwl ymysg yr henoed a phobl agored i niwed, dywedodd Janet:
“Mae fy etholaeth, Aberconwy, yn rhan o Gyngor Sir Conwy ac yn cynnwys y ganran uchaf o bobl 65 oed a throsodd yng Nghymru, gyda nifer sylweddol o drigolion wedi bod ar y rhestr warchod ers mis Mawrth diwethaf.
“Ers dyddiau cynnar y pandemig gwyddom fod pobl 70 oed a throsodd mewn mwy o berygl o COVID-19, waeth pa gyflyrau meddygol sydd ganddynt. O ganlyniad, mae’r etholwyr agored i niwed hyn wedi aros yn y tŷ i raddau helaeth ac yn aml yn dioddef o unigrwydd, ofn a gorbryder o ganlyniad.
“Drwy wybodaeth ddibynadwy gan swyddogion gofal iechyd rwy’n gwybod bod y galw am driniaeth iechyd meddwl ymysg y grŵp hwn wedi cynyddu o ganlyniad i’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus diweddar ac angenrheidiol, a bod angen mynd i’r afael â’r cynnydd hwn yn gyflym i osgoi canlyniadau hirdymor a fydd yn peryglu bywydau.
“Proses frechu gyflym yw ein harf unigol mwyaf i roi sicrwydd i’r unigolion hyn. Ond dydy hynny ddim yn digwydd yn fy etholaeth i yn Aberconwy. Yn waeth na hynny, dydy’r bobl hyn ddim wedi derbyn unrhyw wybodaeth o gwbl ac mae eu gorbryder yn gwaethygu.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru lynu at ei hamserlenni brechu gwreiddiol os yw am fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl tebygol hwn. Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Gweinidog sicrhau bod mynediad at grwpiau cymorth unigrwydd a grwpiau cymorth iechyd meddwl yn cael ei gynnal yn briodol.”
DIWEDD