Heddiw (18 Mawrth), mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu'r newyddion bod y gyfran gyntaf o gyllid wedi'i rhyddhau o dan Fargen Twf Gogledd Cymru. Dywed Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru y gall symud ymlaen yn awr i osod sylfeini ar gyfer y 14 prosiect "trawsnewidiol" ym Margen Twf Gogledd Cymru. Maen nhw’n cwmpasu bwyd-amaeth a thwristiaeth, ynni, tir ac eiddo, digidol ac arloesedd ym maes gweithgynhyrchu gwerth uchel.
Wrth glywed y newyddion, dywedodd Janet:
"Ni ddylem amau bod hon wedi bod yn flwyddyn ofnadwy o anodd i fusnesau ar draws Aberconwy a rhanbarth ehangach y Gogledd. Ond rwy'n gwybod y bydd llawer yn obeithiol ar gyfer y dyfodol gyda'r newyddion bod y gyfran gyntaf o gyllid wedi'i rhyddhau o dan Fargen Twf Gogledd Cymru.
"Bydd y Fargen yn dod yn gam hanfodol er mwyn i’r Gogledd ailgodi’n well, wrth i'n cymuned geisio adfer ar ôl y pandemig a thrawsnewid ein rhagolygon economaidd. Mae’n wych bod gan y prosiect hwn y potensial i greu hyd at 3,800 o swyddi newydd ac i gefnogi cynnydd o £2.2 biliwn i'r economi.
"Y chwistrelliad hwn, gwerth £16 miliwn, yw'r gyfran gyntaf o gyfraniad cyffredinol o £240 miliwn - £120 miliwn yr un gan lywodraethau'r DU a Chymru. Unwaith eto, mae'r prosiect hwn yn brawf bod Cymru ar ei hennill pan fyddwn yn gweithio'n adeiladol gyda'n partneriaid yn y DU."