Ar ôl clywed nad oedd rhai mamau'n cael y cyfle i gael eu partner neu unigolyn arall o'u dewis gyda nhw yn ystod apwyntiadau uwchsain lleol, ysgrifennodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae Janet wedi croesawu ateb y Gweinidog erbyn hyn, gyda chanllawiau diwygiedig yn cael eu cyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), gan ddweud:
“Mae apwyntiadau uwchsain yn gam eithriadol o bwysig yn y daith famolaeth, gan roi cyfle allweddol i rieni weld eu plentyn. Dyna pam yr oeddwn mor bryderus o glywed nad yw rhai mamau wedi cael y cyfle i gael eu partner neu unigolyn arall o'u dewis gyda nhw yn yr apwyntiadau hollbwysig hyn.
“Ar ôl ysgrifennu at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, i amlinellu'r adroddiadau lleol hyn sy'n peri pryder, ac i alw am ddiweddariad i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar ymweld ag ysbytai a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, o ganlyniad bu modd i Fyrddau Iechyd gynnal asesiadau risg pellach o bob safle mamolaeth i asesu a ellid codi rhai cyfyngiadau.
“Rwy'n croesawu'r newyddion arwyddocaol bod canllawiau newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u rhoi ar waith erbyn hyn, ac, o ganol y mis hwn ymlaen, gall partneriaid enwebedig fynychu sganiau cyn belled â'u bod yn cwblhau prawf llif unffordd cyn mynd i'r ysbyty. Ar ôl cyrraedd, bydd angen sgrinio partneriaid enwebedig am symptomau hefyd.
“Bydd ystyriaethau ymweld yn cael eu llywio gan gyfraddau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned, nifer y derbyniadau COVID 19 mewn ysbytai ac achosion o'r haint. Serch hynny, mae hwn yn newid pwysig a fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd y mae mawr ei angen i'n rhieni newydd wrth iddynt dderbyn y wybodaeth hanfodol hon o'r sgan gyda'i gilydd.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae copi o lythyr Janet at Eluned Morgan AS ynghlwm.
- Mae copi o ateb y Gweinidog ynghlwm.
- Mae canllawiau llawn a diweddaraf BIPBC i'w gweld drwy glicio yma.
Ffotograff: gan freestocks ar Unsplash