Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi siarad am ei balchder o weld cymaint o bobl yn dod i ddigwyddiad Dydd Sul Dinesig Conwy. Cynhaliwyd y seremoni ffurfiol i ddymuno’n dda i Faer Conwy a Chwnstabl y Castell, y Cynghorydd Collette Ryan, ddydd Sul ac i gloi cafwyd gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair a’r Holl Saint yn y dref.
Arweiniwyd yr orymdaith, a oedd yn cynnwys pwysigion a sefydliadau fel y grŵp Sgowtio lleol, gan Graham John Jones gyda chwmni band pres Porthaethwy. Aeth yr orymdaith o Fodlondeb i Town Ditch ac i Stryd Berry, cyn mynd ymlaen i’r Stryd Fawr ac Eglwys y Santes Fair.
Yn dathlu’r achlysur, meddai Janet:
“Wrth gerdded gyda’r orymdaith o Fodlondeb i Eglwys y Santes Fair, gyda seiniau band Porthaethwy’n bownsio oddi ar waliau hanesyddol y dref hyfryd hon, ni allwn beidio â gwerthfawrogi dwyster yr eiliad hon. Daeth â thrigolion ac ymwelwyr y dref at ei gilydd wrth iddynt oll ddymuno’n dda i Faer Conwy a Chwnstabl y Castell, y Cynghorydd Collette Ryan.
“Roedd dod at ein gilydd i ddymuno’r gorau drwy gyfrwng y gwasanaeth hwn yn cydnabod y ffaith fod ein cymuned yn dod dros 18 mis eithriadol o heriau ac yn edrych tua’r dyfodol gan roi cynlluniau beiddgar ar waith i godi ar ein traed unwaith eto. Mae’r ffaith y bydd y gamp hon yn cael ei harwain gan y Cynghorydd Collette Ryan – sy’n ased enfawr i’r dref yn ei rôl fel Maer – yn golygu bod gen i bob ffydd yn ei llwyddiant.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r holl bobl a ddaeth allan i groesawu’r orymdaith, ynghyd ag Ysgrifennydd y Maer a Chlerc y Dref am eu cyfraniad wrth drefnu digwyddiad mor hyfryd. Diolch hefyd i Gaplan y Maer, ynghyd â’r Offeiriad Juliet Fraser, am gynnal gwasanaeth mor hyfryd.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS gyda Maer Conwy a Chwnstabl y Castell, y Cynghorydd Collette Ryan.