Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio'n rhagweithiol i ba gamau y gallant eu cymryd i helpu i gryfhau'r sectorau lladd-dai a ffermio moch yng Nghymru.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, gofynnodd Janet:
A wnaiff y Gweinidog gysylltu â swyddogion Llywodraeth y DU er mwyn i ladd-dai ledled Cymru gael eu trwyddedu i ladd moch?
Wrth sôn am y mater, dywedodd Janet:
“Ar adeg pan fo llawer o ffermydd wedi gweld 25% yn llai o foch yn cael eu lladd bob wythnos, sydd wedi golygu bod niferoedd yn pentyrru'n gyflym ar ffermydd, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ymchwilio'n rhagweithiol i'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu i gryfhau'r sector yng Nghymru.
“Nid yw'n gwneud synnwyr bod rhaid i ffermwyr moch yn Sir Conwy deithio i naill ai Gorwen neu Wrecsam i ladd eu moch ar hyn o bryd, pan allem rymuso lladd-dai fel Llanrwst i ymgymryd â'r gwaith hwn. Byddai hyn yn cryfhau ein heconomi wledig ac yn cylchredeg arian lle mae ei angen fwyaf.
“Mae angen i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig gymryd yr awenau i hyrwyddo lladd-dai Cymru, a rhoi strategaeth ar waith i weld cymaint â phosibl yn cael eu trwyddedu i drin moch.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Pascal Debrunner ar Unsplash