Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS - wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cap ar iawndal ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd TB buchol. Daeth yr ymyriad ar ffurf cwestiwn llafar i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig.
Mae Mrs Finch-Saunders yn ymgyrchydd gweithgar sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o effaith emosiynol ac ariannol dulliau polisi'r Llywodraeth ddatganoledig, ac mae wedi galw hefyd am ymestyn yr hawl i apelio er mwyn herio'r gwerth a roddir ar yr anifail sy'n cael ei ladd. Daw hyn wrth i ystadegau ddangos bod 2,990 o wartheg wedi'u lladd yn ail chwarter eleni, gan wthio nifer yr anifeiliaid a laddwyd oherwydd TB buchol i 6,175.
Wrth siarad ar ôl ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Wrth gyflwyno sylwadau’n ddiweddar ar ran fferm leol sy'n parhau i gael trafferth gyda buches wedi'i heintio â TB, ysgrifennodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig ataf yn dweud nad oes rhaid i'r ffermwr gytuno ar brisiadau am iawndal ac na ellir apelio yn erbyn gwerth y farchnad.
“Er fy mod i'n cytuno â thalu ar sail gwerth y farchnad – cam sy'n cael ei ystyried yn eang yn un cyfiawn a theg – yr hyn sy'n fwyaf annheg yw'r ffaith bod y cap ar iawndal yn parhau i fod yn £5,000, yn ogystal â'r broblem gyda'r broses apelio.
“Gallai tarw pedigri fod yn werth dros £5,000 yn rhwydd. Gyda hyn mewn golwg, rydw i wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i gydnabod effaith economaidd ddwys y clefyd hwn ar ein busnesau gwledig hanfodol ac adolygu'r cap iawndal. Rydw i wedi gofyn hefyd am estyniad i'r hawl i apelio er mwyn herio'r gwerth a roddir ar yr anifail sy'n cael ei ladd.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS