Wrth barhau â’i gweithgareddau Wythnos Hinsawdd Cymru 2021, mae Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, Janet Finch-Saunders AS, wedi annog Llywodraeth Cymru i efelychu’r addewid a wnaed gan Brif Weinidog y DU, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, yn ei araith ddiweddar i’r CBI yn nodi gofyniad i gartrefi ac adeiladau newydd gael pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Disgwylir y bydd 145,000 o bwyntiau gwefru eraill yn cael eu gosod diolch i’r rheoliadau hyn.
Fel yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, mae Janet wedi tynnu sylw’n ddiweddar at y diffyg darpariaeth gwefru yn ei gwrthwynebiad ffurfiol i’r cynlluniau diwygiedig ar gyfer y datblygiad arfaethedig ar Ffordd Nant y Gamar/Caeau Bodafon. Gallwch ddysgu mwy am y gwaith drwy glicio yma.
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n 10fed allan o 12 gwlad a rhanbarth y DU o ran cyfanswm y pwyntiau gwefru sydd ar gael, ystadegyn sy’n peri pryder ac un sydd hefyd yn cefnogi data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 43% o brynwyr ceir Cymru ar hyn o bryd yn diystyried prynu cerbyd trydan am bum mlynedd arall neu fwy.
Wrth gynnig sylwadau ar ôl ei Chwestiwn Ysgrifenedig, dywedodd Janet:
“Mae angen cynllunio datblygiadau tai newydd i hwyluso’r broses o drosglwyddo o fod yn ddibynnol ar y peiriant tanio mewnol i fod yn gymdeithas lanach a mwy cynaliadwy. Yn hollbwysig, bydd hyn yn gofyn am well cysylltiadau trafnidiaeth a gwell seilwaith carbon isel.
“Ar ôl codi’r diffyg pwyntiau gwefru yn fy llythyr diweddar yn gwrthwynebu cynllun datblygu lleol, ac ysgrifennu at sefydliadau fel Cartrefi Conwy i adolygu pa waith y mae ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ei wneud i helpu gyda’r pontio, mae’n amlwg bod angen arweinyddiaeth o’r brig, a hynny ar fyrder.
“O dan y cynigion gwych hyn gan Lywodraeth y DU, bydd yn ofynnol i bob tŷ newydd gael pwynt gwefru trydan wedi’i osod. Ar sail ein hymrwymiad i ddileu gwerthiant ceir a faniau petrol a diesel newydd yn raddol erbyn 2030, rwy’n daer bod angen i weithredu tebyg ddechrau yng Nghymru nawr.
“O ystyried bod Cyllideb Carbon Sero-Net y weinyddiaeth yn nodi ymhellach yr uchelgais y dylai 48% o werthiant ceir newydd, erbyn 2025, fod yn gerbydau dim allyriadau, byddai diweddaru ein gofynion adeiladu yn arwydd clir ar gyfer newid.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Cwestiwn Ysgrifenedig: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i efelychu gofyniad Llywodraeth y DU y dylai pob tŷ newydd yn Lloegr gael pwynt gwefru trydan wedi’i osod?
Llun: ShutterSnap/UnSplash