Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi annog y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ymgysylltu â gwaith sy'n cael ei wneud gan Fwrdd Cyfiawnder Teuluol Lleol Gogledd Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r "argyfwng plant sy'n derbyn gofal" yng Nghymru.
Mae cynllun peilot Gogledd Cymru yn cynnig cymorth a gwybodaeth integredig am wahanu rhieni a'u plant, gyda'r ganolfan yn helpu i nodi'r "llwybr" priodol ar gyfer pob teulu.
Wrth siarad ar ôl ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Ar ôl gweithio'n galed i helpu i ymdrin â'r mater o blant sy'n derbyn gofal ar draws sawl tymor yn y Senedd, roedd yn dda gennyf dderbyn Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol ym mis Medi yn cadarnhau y bydd cyfiawnder teuluol yn faes allweddol yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
“Ar hyn o bryd, mae tua 7,170 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru, sef 1.14% o blant, sy'n uwch na chyfartaledd presennol y DU, sef 0.72% o blant. Mae hyn yn cael effaith niweidiol iawn ar lawer o deuluoedd yng Nghymru, ac mae angen camau gweithredu brys a rhagweithiol i fynd i'r afael â'r mater.
“Rwy'n ymwybodol bod Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Lleol Gogledd Cymru yn un o ddwy ardal fraenaru sy'n cymryd rhan mewn rhaglen beilot i brofi a gwerthuso’r Rhaglen Trefniadau Plant ddiwygiedig.
“Felly, fel rhan o'i waith yn y maes hwn, rwyf wedi annog y Cwnsler Cyffredinol i ymgysylltu â'r gwaith hwn ac ystyried y posibilrwydd o gefnogi cynlluniau peilot o'r fath mewn ardaloedd eraill o Gymru.”
Ar gyfartaledd, mae tua 4,300 o achosion yr wythnos yn cael eu clywed mewn llysoedd teulu yng Nghymru a Lloegr - sef cyfanswm o 224,902 y llynedd.
DIWEDD
Llun: gan Tingey Injury Law Firm ar Unsplash