Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu a staff y Post Brenhinol yn gweithio ddydd a nos, roedd Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - yn falch iawn o gael ymweld â Swyddfa Ddosbarthu’r Post Brenhinol yn Aberconwy i ddiolch i’r Rheolwr Mr Mark Hughes a’i dîm gwych am eu gwaith caled a’u hymroddiad parhaus.
Wrth wneud sylwadau ar ei hymweliad â’r Swyddfa Ddosbarthu, dywedodd Janet:
“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i bawb. Fodd bynnag, gydol y cyfnodau clo, cyfyngiadau a phrinder staff parhaus a welwyd ledled yr economi, mae tîm y Post Brenhinol yn Swyddfa Ddosbarthu Llandudno wedi parhau i weithio ddydd a nos i sicrhau bod ein gwaith dosbarthu, llythyrau apwyntiadau brechu a phecynnau profi cartref yn cyrraedd ar amser.
“Fodd bynnag, cafodd gwaith pwysig sefydliadau fel y Post Brenhinol ei ddiystyru’n rhy aml yn ystod y pandemig. Felly, a gyda Dydd Nadolig yn prysur agosáu, roedd hi’n fraint go iawn cael cyfarfod cymaint o ddynion a menywod sy’n gweithio mor galed yn nhîm Llandudno i ddiolch yn bersonol iddyn nhw i gyd.
“Mae eu hymdrechion parhaus a’u proffesiynoldeb yn cadw ein gwlad a’n cymdeithas i symud ymlaen, hyd yn oed dan amgylchiadau anodd iawn. Gan hynny, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto i’r tîm yma yn Aberconwy sy’n gweithio mor galed gydol y flwyddyn i sicrhau bod eich post yn cyrraedd yn ddyddiol.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn y swyddfa ddosbarthu.